Mwy o Newyddion
Pleidiau San Steffan yn troi eu cefn ar bobl bregus Cymru
Mae Hywel Williams AS Plaid Cymru wedi ymateb i adroddiad gan y Swyddfa Archwilio i effaith diwygio lles gan feirniadu pleidiau San Steffan am fabwysiadu mesurau niweidiol sydd wedi cael effaith anghymesur ar Gymru.
Gwnaeth Mr Williams yr achos dros roi terfyn ar lymder a dros fuddsoddi er mwyn creu twf economaidd, gan gyfeirio at gynlluniau Plaid Cymru i greu swyddi a lleihau'r gyllideb lles.
Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd Mr Williams: "Mae Plaid Cymru wedi gwrthwynebu cynlluniau diwygio lles San Steffan megis y Treth Lloftydd sydd wedi niweidio Cymru'n anghymesur o'r cychwyn.
"Dyma fesurau a gynigiwyd gan Glymblaid y Toriaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol ac sydd wedi pasio drwy Senedd San Steffan yn llawer rhy aml o ganlyniad i Lafur yn llaesu dwylo drwy beidio pleidleisio neu yn waeth, drwy bleidleisio o blaid fel yn achos y cap lles.
"Mae'r adroddiad hwn yn cadarnhau fod y newidiadau wedi arwain at lot o golledion ond dim enillion. Yn hytrach nag arbed arian, mae'r toriadau lles wedi gorfodi cynghorau Cymreig i wario arian ar ddelio gyda chanlyniadau polisi bler a byrbwyll.
"Mae'r mwyafrif helaeth o gynghorau ac asiantaethau tai wedi gorfod gwastraffu adnoddau yn delio gydag effaith y treth lloftydd, er enghraifft.
"Mae bron i dri chwarter ohonynt hefyd wedi adrodd cynnydd yn y nifer o dai gwag na ellir eu rhentu yn sgil y newidiadau hyn. Mae'r tai gwag hyn yn faich ar gymdeithas ac yn wastraff pellach o adnoddau.
"Mae'r adroddiad yn atgyfnerthu safbwynt Plaid Cymru mai nid drwy gosbi'r tlawd ond yn hytrach drwy fuddsoddi mewn swyddi a sgiliau mae lleihau'r gyllideb lles.
"Mae cynghorau lleol wedi talu'n ddrud am ymgais ideolegol San Steffan i ddatgymalu'r wladwriaeth les. Gyda Llafur a'r Toriaid wedi ymrywmo i lymder pellach, dim ond Plaid Cymru sy'n fodlon amddiffyn unigolion mwyaf bregus Cymru.
"Byddai Cynllun C Plaid Cymru yn creu 50,000 o swyddi ychwanegol, ac yn cynrychioli ffordd llawer gwell o leihau'r gyllideb lles, rhoi hwb i'r economi, a rhyddhau adnoddau er mwyn buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus."