Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Ionawr 2015

Sioe ddramatig yn dod â Chymru’r deunawfed ganrif yn fyw

Morladron, ymladd ceiliogod, cystadleuaeth pêl-droed anystywallt, roedd gan fywyd yn y ddeunawfed ganrif ei rialtwch a’i anturiaethau, sialensiau a dathliadau.

Mae cynhyrchiad drama newydd; Mr Bulkeley o’r Brynddu gan Gwmni Pendraw, sy’n teithio gogledd Cymru yn yr wythnosau nesaf (gweler rhestr y daith isod) wedi ei hysbrydoli gan ddyddiadur sydd yn dod a’r cyfnod yn fyw yn ei holl ddrama.

Cynigiodd dyddiaduron a ysgrifennwyd gan William Bulkeley, sgweier Y Brynddu, Llanfechell, Ynys Môn rhwng 1734-1760 y deunydd delfrydol ar gyfer cynhyrchiad cyntaf cwmni drama newydd, Cwmni Pendraw, sydd wedi’i sefydlu er mwyn creu profiadau theatraidd sydd yn cyfuno themâu hanesyddol a gwyddonol.

Mae’r cast bychan ac amryddawn yn arwain y gynulleidfa drwy uchafbwyntiau ac isel bwyntiau bywyd William Bulkeley, gan symud rhwng cymeriadau a’i thywys o’i gartref yn Y Brynddu, i Lys Biwmares, i Ddulyn, Llundain a’r Eidal. Arweinir y gynulleidfa drwy’r cyfan gan ddarlleniadau o’r dyddiaduron, a ysgrifennwyd yn Saesneg, golygfeydd dramatig a cherddoriaeth o’r cyfnod ac a nodwyd yn y dyddiaduron.

Meddai dramodydd y darn, yr actor a chyfarwyddwr, Wyn Bowen Harries:“Pan ddarllenais ddyddiaduron William Bulkeley yn archif Prifysgol Bangor, roedd y cyfan yn ymddangos fel drama, yn wir mae digon o ddrama ar gyfer opera sebon ym mywyd yr hen William Bulkeley.

"Er ei fod yn un o’r bonedd, mae ei fywyd yn galed ac yn llawn drama: mae’n rhaid iddo ddelio gyda’r hyn sy’n digwydd yn sgil carwriaeth ei ferch gyda dihiryn o forleidr, mae ei fab, sydd i fod yn astudio yn yr ‘Inns of Court’ yn Llundain, yn gwario’n ofer o’i lwfans, tra bod ei fam yn cael ei sathru gan wartheg a chael ysgol yn disgyn arni. Yn ei ddyddiaduron mae William Bulkeley hefyd yn cofnodi rhai o’r cymeriadau, yr arferion a’r bywyd bob dydd o’i gwmpas. Mae’n nodi’r cyfiawnder bras sy’n cael ei bennu gan y Barnwr yn Llys Biwmares, ac yn sylwi ar safon wael pregeth person y plwyf.”

Dyma ysgrifennodd Manon Wyn Williams yn Barn am berfformiad cyntaf Mr Bulkeley o’r Brynddu dis Medi diwethaf, i ddathlu lansio’r dyddiaduron a thrawsgrifiad ar-lein: “Cafwyd perfformiadau tan gamp gan yr actorion sef Wyn ei hun, (Bowen Harries), Rhodri Siôn a Manon Wilkinson…” 

Roedd gan Heledd Lewis Jones Pennaeth Drama Ysgol Syr Thomas Jones hyn i ddweud am y perfformiad o Mr Bulkeley o’r Brynddu: “Mae’r disgyblion Drama yn parhau i sôn am y perfformiad welsant yn Llanfechell. …Roedd yr awyrgylch grëwyd a’r perfformiad gan y cast bychan talentog, wir yn effeithiol….Crëwyd cymeriadau credadwy ble gallwyd uniaethu â nhw gan y cast amryddawn hwn ac roedd y gynulleidfa wedi eu bachu! Roedd y gerddoriaeth benodol i’r cyfnod hefyd yn ychwanegu i’r perfformiad yn ei gyfanwaith.”

Noddir y perfformiadau sydd yn addas i gynulleidfa dros 11 oed gan Gyngor Sir Ynys Môn, Cynllun Noson Allan, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cymdeithas Edward Llwyd/Llen Natur, MagnoxSDF a Chonsortiwm Newid Hinsawdd Cymru.

 Manylion y daith a tocynnau:

Mawrth 27 Ionawr, Canolfan Ucheldre, Caergybi, Swyddfa Docynnau 01407 763361;
Mercher 28 Ionawr, Neuadd Goffa, Betws y Coed, Menter Iaith Conwy 01492 642 357;
Iau 29 Ionawr, Neuadd Ogwen, Bethesda, Swyddfa Docynnau 01248 605388;
Gwener 30 Ionawr, Theatr Fach, Llangefni, Menter Môn 01248 725700
Sadwrn 31 Ionawr, Theatr Twm o’r Nant, Dinbych, Gaynor Morgan Rees               01745 812349 neu Siop Clwyd 01745 813431;
Mawrth 3 Chwefror, Neuadd Goffa, Cricieth, Elizabeth George neu Siop Newsday 01766 523566;
Mercher 4 Chwefror, Ysgol Bodedern, Bodedern, Arwyn Roberts – rhif Ysgol 01407 741000;
Iau 5 Chwefror, Neuadd Goffa, Cemaes,  Carys Davies 01407710998;
Gwener 6 Chwefror, Neuadd Dwyfor, Pwllheli, Swyddfa Docynnau 01758 704088;
Sadwrn 7 Chwefror, Neuadd Buddug, Bala, Swyddfa Docynnau 01758 704088 neu siop Awen Meirion 01678 520658
Mawrth 10 Chwefror, Galeri Caernarfon, Swyddfa Docynnau 01286 685222;
Iau 12 Chwefror, Theatr Emlyn Williams, Theatr Clwyd Yr Wyddgrug, Swyddfa Docynnau 0845 3303565
Gwener 13 Chwefror, Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, Mena Price 01766 523566;
Sadwrn 14 Chwefror, Yr Hen Lys Barn, Biwmares, (Perfformiad Arbennig lle i 50) Sian Davies 01248 810245;
Pob perfformiad yn dechrau am 7.30 PM (Heblaw am Theatr Clwyd 7.45)

* Mae Dyddiaduron William Bulkeley a’r trawsgrifiad ar gael ar http://bulkeleydiaries.bangor.ac.uk/ fe’u cedwir yn Archif Prifysgol Bangor.

Wyn Bowen Harries fel Mr Bulkeley yn ystod perfformiad yn Llanfechell

Rhannu |