Mwy o Newyddion
Rhaid i Gynghorau adlewyrchu’r bobl maent yn eu gwasanaethu
Mae'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews yn dweud bod yn rhaid i sefydliadau cyhoeddus, ac yn arbennig Cynghorau, newid i adlewyrchu'n well y cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu.
Wrth siarad yng nghynhadledd flynyddol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) heddiw, dywedodd y Gweinidog wrth y cynrychiolwyr: "Rhaid i’n gweledigaeth ar gyfer llywodraeth leol yn y dyfodol fod fwy na rheolaeth lesg. Does neb am fod yn rhan o lywodraeth leol er mwyn torri a chau gwasanaethau neu reoli dirywiad.
"Ni allwn esgus bellach bod llywodraeth leol yn gallu gwneud popeth. Mae'n rhaid i'n gweledigaeth olygu rhannu pŵer a chyfrifoldeb gyda chymunedau.
"Rwy'n credu bod ein pobl wedi disgwyl yn rhy hir am y newid hwn. Yn hanner ein 22 o awdurdodau lleol, mae tenantiaid wedi pleidleisio i fentrau cymdeithasol redeg eu tai. Mentrau cymdeithasol sydd bellach yn rhedeg nifer o gyfleusterau hamdden ac mae cymunedau hefyd yn rheoli llyfrgelloedd.
"Mae angen i ni groesawu'r modelau newydd hyn ar gyfer darparu gwasanaethau ac annog pobl i feddwl yn greadigol am sut y gallwn eu datblygu.
"Ein tasg ni yw creu partneriaeth rhwng y gwahanol sectorau - y sector cyhoeddus, y gweithwyr proffesiynol, ac wrth gwrs y sefydliadau gwirfoddol, sy'n gwybod beth sydd ei angen, ac sydd wedi ymrwymo i'w ddarparu.
"Mae angen i newid sylfaenol ddod â chymunedau yn nes at y gwasanaethau cyhoeddus maen nhw'n eu derbyn. Dim ond drwy rannu pŵer a chyfrifoldeb y gallwn adfer y cysylltiad rhwng cymunedau a'r rheini sy'n eu cynrychioli.
"Rhaid i ni annog mwy o bobl sy'n weithgar yn eu cymunedau i sefyll mewn etholiad. Rwy'n cwrdd â nifer o bobl sy'n weithgar yn eu cymunedau ac y byddai'n gwneud cynghorwyr gwych, ond byddai'r rhan fwyaf yn rhedeg milltir pe bawn i'n gofyn iddyn nhw sefyll mewn etholiad am swydd gyhoeddus. Rydw i am annog mwy o'r bobl hyn i ystyried eu hunain yn arweinwyr posibl i sicrhau newid yn ein cynghorau.
"Mae bywyd cyhoeddus yn golygu eich bod yn cynrychioli, yn arwain drwy esiampl ac yn adlewyrchu barn cymunedau, ac rydw i am i bobl Cymru deimlo'n rhan o'r penderfyniadau hynny.
“Mae'n rhaid i siambrau cynghorau Cymru adlewyrchu poblogaeth y wlad a'r holl amrywiaeth sydd ynddi. Mae'n drueni nad yw nifer o'r bobl sy'n gweithio dros achosion da neu'n cynrychioli eu cymunedau mewn ffyrdd eraill, yn teimlo y gallan nhw gynrychioli pobl yn ddemocrataidd.
"Rydw i am gynnal trafodaeth go iawn am bwy sy'n ein cynrychioli ni'n lleol a sut y maen nhw'n cysylltu â'r gymuned y maen nhw'n ei chynrychioli, a byddaf yn cyhoeddi Papur Gwyn ym mis Chwefror."