Mwy o Newyddion
Cefnogi cynllun i gynorthwyo cyn-filwyr Cymru
Heddiw, lansiodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews, ymgyrch newydd i hyrwyddo cerdyn braint i gyn-filwyr yng Nghymru.
Wrth siarad mewn digwyddiad ar gyfer Hyrwyddwyr y Lluoedd Arfog yng Nghaerfyrddin, amlinellodd y Gweinidog sut y mae Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn cynorthwyo cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru.
Dywedodd wrth y cynrychiolwyr "Rydyn ni'n ddiolchgar ac yn ddyledus i'n Lluoedd Arfog, y rhai blaenorol a'r rhai presennol, ac mae'n rhaid i ni barhau i weithio gyda'n gilydd i'w helpu nhw a'u teuluoedd.
"Mae'r pecyn cymorth diwygiedig a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru y llynedd eisoes yn cynnig amrywiaeth o fanteision i filwyr presennol a chyn-filwyr, gan gynnwys gwella mynediad at wasanaethau iechyd a chymorth tai.
"Fodd bynnag, drwy weithio gyda'n gilydd a rhannu profiadau, rwy’n credu yn gallwn wneud mwy i sicrhau bod cymuned ein Lluoedd Arfog yn cael y cymorth gorau posibl, a hynny'n gyson.
"Drwy lansio'r ymgyrch heddiw, rydw i am godi ymwybyddiaeth ymhlith cymuned y Lluoedd Arfog am fanteision y cerdyn braint, ac annog pob un ohonynt i gofrestru ar ei gyfer."
Gall cyn-filwyr gofrestru am ddim i dderbyn y cerdyn braint. Mae'n rhoi gostyngiadau ar ystod o nwyddau a gwasanaethau, ac fel rhan o'r ymgyrch, mae cwmnïau yng Nghymru yn cael eu hannog i ymuno â'r cynllun.