Mwy o Newyddion
Bil Cynllunio: Croesawu sylwadau'r Gweinidog ar yr iaith
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu sylwadau'r Gweinidog Cynllunio Carl Sargeant o flaen y pwyllgor amgylchedd heddiw (Dydd Iau, Tachwedd 27) sy'n awgrymu bydd y Gymraeg yn cael ei gynnwys yn y Bil Cynllunio.
Daw'r sylwadau wedi i'r mudiad iaith ddatgan eu bod yn ystyried her gyfreithiol ar y sail bod y Llywodraeth wedi anwybyddu cyngor Comisiynydd y Gymraeg ar y Bil. Cwta pythefnos yn ôl, cwrddodd swyddogion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gyda phennaeth yr adran gynllunio i drafod y ddeddfwriaeth, ac ysgrifennodd saith arweinydd cyngor at y Llywodraeth i gwyno am y diffyg sôn am yr iaith.
Wrth groesawu'r newyddion, dywedodd Tamsin Davies, llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Rydyn ni'n croesawu'r newyddion bod y Gweinidog nawr yn edrych i wneud y Gymraeg yn rhan o'r Bil Cynllunio.
"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi'r ymgyrch dros y flwyddyn diwethaf - onibai amdanynt ni fyddem wedi cyrraedd y pwynt yma. Nawr bod y Llywodraeth wedi derbyn mae'r Gymraeg yn fater sy'n eistedd o fewn fframwaith y Bil, rydyn ni nawr yn edrych ymlaen at drafod llunio system newydd sy'n adlewyrchu anghenion unigryw Cymru.
"Trefn gynllunio newydd er mwyn cryfhau'r Gymraeg wrth gwrs, ond hefyd er mwyn gwella'r amgylchedd ac er mwyn taclo lefelau tlodi.
"Byddwn ni'n amlinellu argymhellion mwy manwl wythnos nesaf wrth lansio rhagor o'n cynigion yn y Cynulliad, ac byddwn ni'n gwneud cais i gwrdd a'r Gweinidog i drafod y materion hyn yn bellach.
"Allwn ni ddim parhau gyda Bil sy'n dynwared system sy'n bodoli yn Lloegr, gallai e fod yr hoelen olaf yn arch ein cymunedau Cymraeg fel arall. Cam cyntaf yn unig yw hyn. Bydd angen i Lywodraeth Cymru ac i'r Awdurdodau Lleol gweithredu i ddiogelu ac i hyrwyddo'r Gymraeg yn ein cymunedau."
Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyhoeddi ail fersiwn eu Bil Eiddo a Chynllunio ddydd Mawrth nesaf yn y Cynulliad.