Mwy o Newyddion
Prynwch yn lleol ar ddydd Gwener Gwallgo
Ar ddydd Gwener Gwallgo, mae Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi Rhun ap Iorwerth wedi annog pobl sy’n siopa i brynu’n lleol.
Anogodd bobl i ddewis siopau annibynnol lleol yn hytrach na’r cwmnïau mawr amlwladol lle bynnag yr oedd modd, er mwyn cefnogi gweithwyr lleol a helpu’r economi lleol.
Ers amser, bu Plaid Cymru o blaid gwario doethach gan gyrff cyhoeddus, gan ddadlau y gallai cynyddu canran y contractau arian cyhoeddus a roddir i gwmnïau lleol Cymreig greu hyd at 50,000 o swyddi yng Nghymru.
Dywedodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi Rhun ap Iorwerth:
“Fel pobl sy’n siopa, tydym ni ddim yn sylweddoli mor rymus yr ydym. Mae economi Cymru wedi ei hadeiladu ar fasnachwyr bach, ac y mae’r cwmnïau hyn yn cyflogi gweithwyr lleol, yn cefnogi busnesau lleol eraill ac yn cadw eu helw yn yr economi lleol.
“Dyw cwmnïau amlwladol ddim yn dweud hyn.
“Dyw mynd yn lleol ddim yn golygu gwario mwy, ac nid yw chwaith yn golygu na fedrwch siopa arlein. Mae gwefannau gan y rhan fwyaf o siopau, ac fe fedrwn oll geisio cefnogi’r busnesau hyn gymaint ag sydd modd.
“Mae pob £1 sy’n cael ei wario mewn siop leol sy’n gwerthu cynnyrch lleol yn werth dwywaith cymaint i’r economi leol na £1 sy’n cael ei wario mewn archfarchnad, felly ar ddydd Gwener Gwallgo, trïwch gefnogi eich siopau lleol.
“Cam bychan ydyw, ond un pwerus.”