Mwy o Newyddion

RSS Icon
27 Tachwedd 2014

Urdd i benodi llysgennad ymhob ysgol

Penodi llysgennad ym mhob ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yng Nghymru – dyna yw tasg Swyddogion Rhanbarth Urdd Gobaith Cymru. Disgyblion chwech dosbarth fydd yn cael eu penodi yn llysgenhadon fydd wedyn yn gyfrifol am ledaenu gwybodaeth am ddigwyddiadau a theithiau i aelodau iau yr ysgol ac annog aelodaeth.

Bwrdd Syr IfanC, sef fforwm drafod yr Urdd i aelodau 16 – 24 oed, gafodd y syniad gan eu bod yn teimlo y byddai aelodau ifanc yr Urdd yn ymateb yn dda i ddisgyblion hŷn. Mae’r syniad yn cael ei dreialu ar hyn o bryd mewn pump ardal - yng Nghaerfyrddin, Ceredigion, Môn, Dinbych a Chaerdydd.

Un ardal sydd wedi cael ymateb gwych i’r cais am lysgenhadon yw Ceredigion. Yno, mae llysgenhadon wedi eu penodi yn y saith ysgol uwchradd a Choleg Ceredigion. Cafwyd degau o fewn pob ysgol yn rhoi cais i fod yn lysgennad, gyda rhwng un a pedwar wedi eu penodi ym mhob ysgol.

Luned George yw Swyddog Ieuenctid Ceredigion.

Dywedodd: “Rydym wedi cael ymateb gwych i’n cynllun yng Ngheredigion. Mae’r llysgenhadon wedi cychwyn ar eu gwaith ers mis Hydref ac maen nhw yn ddefnyddiol iawn i ni – maent mor frwdfrydig ac yn ei gweld fel sialens bersonol i gael plant iau i ddod i ddigwyddiadau. Dwi’n credu hefyd fod plant iau yn ymateb yn well i ddisgyblion hŷn, a’i fod ychydig yn fwl ‘cŵl’ falle i fynd os mai disgybl hŷn sydd yn sôn amdano!

“Mae hefyd yn datblygu sgiliau’r bobl ifanc o ran cymryd cyfrifoldeb, arwain a hyrwyddo digwyddiadau. Mae rhai wedi dechrau clwb Cymraeg amser cinio ble maent yn cynnal gweithgareddau i ddisgyblion iau yr ysgol trwy gyfrwng y Gymraeg.”

Un o’r disgyblion sydd wedi ei phenodi yn lysgennad yw Catrin Davies o Ysgol Penglais, Aberystwyth.

Dywedodd: “Dwy’n edrych mlaen i fod yn lysgennad yr Urdd oherwydd rwy’n gwerthfawrogi y gwaith mae’r Urdd yn ei wneud er mwyn cadw’r iaith Gymraeg yn fyw.”

Un arall yw Luned Jones o Ysgol Bro Pedr, Llambed

 Meddai: “Mae bod yn lysgennad yr Urdd yn gyfle gwych i ddiolch i’r mudiad am yr holl gyfleoedd rwyf wedi eu cael a’r sgiliau rwyf wedi’u meithrin drwy fod yn aelod dros y blynyddoedd.”

Y gobaith yw y bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno yn genedlaethol erbyn yr haf. Eleri Mai yw Rheolwr Gwaith Ieuenctid yr Urdd.

Meddai: “Mae’r ymateb wedi bod yn wych yn ein pump ardal beilot a’r gobaith yw y bydd llysgenhadon wedi eu penodi ym mhob ysgol uwchradd gyfrwng Cymraeg trwy Gymru erbyn mis Medi 2015. Nid syniad newydd yw cael aelodau hŷn i hyrwyddo’r mudiad, gan fod cynllun tebyg gan Syr Ifan yn nyddiau cynnar iawn yr Urdd.

“Bwrdd Syr IfanC gafodd y syniad – sef fforwm drafod genedlaethol i aelodau hŷn yr Urdd sydd wedi ei sefydlu ers bron i ddwy flynedd. Mae’n wych eu bod yn cael cyfle i roi eu barn ar weithgareddau yr Urdd a chynnig syniadau newydd i ni fel y gallwn ffynnu i’r dyfodol.”

Llun: Aelodau o Fwrdd Syr IfanC gyda’r Prif Weinidog Carwyn Jones

Rhannu |