Mwy o Newyddion
Cyhuddo BT o wneud cam â thenantiaid oedrannus
Mae cynrychiolwyr etholedig Arfon Alun Ffred Jones AC a Hywel Williams AS wedi ymosod ar BT am iddyn nhw fethu cadw’u haddewid i orffen gwaith hanfodol ar ganolfan ofal newydd i’r henoed ym Mangor, gan rwystro tenantiaid bregus rhag symud i’w cartrefi newydd.
Roedd gwaith gosod llinellau ffôn newydd a cheblau ar gyfer larymau tân yng nghanolfan Gofal Ychwanegol Cae Garnedd ym Mhenrhosgarnedd i fod i gael ei orffen ym mis Gorffennaf, ond mae’r dyddiad cwblhau wedi ei wthio’n ôl dro ar ôl tro gan BT. Erbyn hyn mae’r darparwr teleffon yn dweud na fydd y gwaith ar y safle yn barod tan fis Rhagfyr.
Mae hyn wedi achosi rhwystredigaeth a phryder i ddarpar denantiaid a’u teuluoedd, gyda rhai tenantiaid bregus eisoes wedi symud allan o’u cartrefi presennol gan ragweld y bydden nhw’n symud i Gae Garnedd.
Mae’r darparwr gofal, Tai Gogledd Cymru, a Chyngor Gwynedd wedi ceisio dro ar ôl tro cael BT i gwblhau’r gwaith.
Dywedodd Alun Ffred Jones AC: “Mae symud tŷ yn ddigon o boendod i unrhyw un dan yr amgylchiadau gorau, ond i’r henoed a phobl fregus, llawer ohonyn nhw’n wael eu hiechyd, mae hyn yn medru bod yn her fawr. Rydw i’n poeni’n arw beth fydd effaith yr oedi yma ar y darpar denantiaid, llawer ohonyn nhw wedi gadael eu cartrefi blaenorol yn y gred y bydden nhw’n symud i Gae Garnedd yr wythnos yma.
"Mi fydd yr oedi yn achosi pryder diangen i ddarpar denantiaid a’u teuluoedd. Dw i’n gwybod fod rhai ohonyn nhw’n byw dan amodau hollol anaddas, gyda rhai mewn llety dros dro. Mae’n hollol annerbyniol fod y bobl yma a’u teuluoedd yn gorfod gwneud trefniadau eraill am yr unig reswm fod BT wedi methu â chadw at eu hymrwymiad.
"Rydw i eisoes wedi bod mewn cysylltiad â BT i fynegi fy mhryder ynglŷn â’r mater a gofyn iddyn nhw wneud popeth o fewn eu gallu i orffen y gwaith cyn gynted ag sy’n bosib er mwyn i’r tenantiaid fedru symud i mewn.”
Dywedodd Hywel Williams AS: “Mae Cymdeithas Tai Gogledd Cymru a Chyngor Gwynedd wedi gweithio yn galed i sicrhau fod y gwaith ar Gae Garnedd wedi ei gwblhau er mwyn darparu gofal arbennig i bobl hŷn.
"Rwy’n siomedig iawn fod BT yn achosi’r oedi yma. Mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â fi yn poeni ynglŷn â’u perthnasau sy’n disgwyl symud i Cae Garnedd ond yn methu a gwneud oherwydd yr oedi yma.
"Rwy’n galw ar BT i sortio hyn allan fel mater o frys.”