Mwy o Newyddion
Cynlluniau buddsoddi'n creu 1,100 o swyddi
Ar drothwy Cynhadledd Fuddsoddi DU Cymru 2014 yn y Celtic Manor Resort, Casnewydd, mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cyhoeddi chwe phrosiect mewnfuddsoddi newydd a fydd, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn creu mwy na 1,100 o swyddi newydd o’r radd flaenaf.
Wrth siarad cyn y gynhadledd, dywedodd y Prif Weinidog: “Mae mwy o fewnfuddsoddi i Gymru nag erioed. Mae’r chwe phrosiect yma yn creu nifer fawr o swyddi newydd, ansawdd uchel yng Nghymru.
“Sdim byd na allwn ei wneud yng Nghymru a dyna fydd fy neges i fuddsoddwyr tramor fory. ‘Does dim angen cymryd fy ngair i am hynny – mae cyhoeddiadau heddiw yn rhan o llif cyson o fuddsoddwyr sy’n parhau i ddewis Cymru.”
Y chwe phrosiect sy’n creu rhagor na 1,100 o swyddi newydd yw:
* Deloitte, cwmni cynghori busnes rhyngwladol sydd ar fin creu hyd at 700 o swyddi wrth iddo baratoi i arallgyfeirio ac ehangu ei waith yn y Ganolfan Ragoriaeth yn Ardal Fenter Canol Caerdydd;
* Griffin Place Communications (GPC) o Lundain, cwmni newydd sy’n trefnu gwasanaethau canolfan cyswllt gan arbenigo mewn gofalu am gwsmeriaid a blaengaredd. Bydd yn creu rhagor na 300 o swyddi yn y 12 mis nesaf yng Nghwmbrân;
* Raytheon - yn ailfuddsoddi ac yn ehangu ei ffatri Awyrennau Special Mission ym Mrychdyn yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy, i’w gwneud yn bencadlys adran Atebion Hedfan y cwmni. Buddsoddir tua £1m, gyda hwb ariannol gan Lywodraeth Cymru, i greu Canolfan o Ragoriaeth ar gyfer dylunio a rheoli rhaglenni ar gyfer cwsmeriaid Prydeinig a rhyngwladol, yn ogystal â gweithgareddau ymchwil a datblygu fydd yn creu 50 o swyddi crefftus;
* Smartpipe Solutions o Lundain - yn buddsoddi dros £10m gyda chymorth Llywodraeth Cymru i sefydlu canolfan datblygu ac ymchwil meddalwedd yng Nghwmbrân i greu 44 o swyddi peirianneg TG crefftus;
* Mae SPTS Technologies, cwmni angori Cymreig o dan ofal Orbotech (NASDAQ: ORBK) wedi cael grant ymchwil a datblygu gan Lywodraeth Cymru. Bydd yn talu am brosiect ymchwil tair blynedd i ddatblygu technegau blaengar ar gyfer prosesu wafferi yn y maes pecynnu. Y nod yw cynhyrchu’r genhedlaeth ddiweddaraf o gylchedau integredig a systemau micro-electro-fecanyddol (MEMS). Bydd y prosiect yn creu 30 o swyddi ymchwil a datblygu amser llawn yng Nghasnewydd;
* Essentra, cwmni pecynnu rhyngwladol, un o’r FTSE 250. Bydd yn agor ffatri cynhyrchu deunydd pecynnu 52,000 tr sg bwrpasol yn Imperial Park yng Nghasnewydd yfory (Gwener, 21 Tachwedd) i greu mwy na 20 o swyddi newydd.
Bydd y Prif Weinidog yn ymweld â safle SPTS heddiw (Iau, 20 Tachwedd) yng Nghasnewydd sydd ar hyn o bryd yn cyflogi 263 o bobl, ger y Celtic Manor Resort, lle caiff cynhadledd fory ei chynnal.
Meddai: “Cymru yw’r dewis cyntaf ar gyfer mwy a mwy o gwmnïau. Mae cyhoeddiad heddiw yn dystiolaeth bellach fod Cymru’n lle poblogaidd ymhlith cwmnïau sy’n ehangu. Rydym yn gweithredu mewn marchnad ryngwladol ac mae cystadleuaeth ryngwladol am y prosiectau hyn. Gallai’r cwmnïau fod wedi mynd unrhyw le yn y byd ac mae’n wych gweld pob un yn dewis Cymru.
“Mae’n gadarnhad bod Cymru’n gallu cyflawni ac mae busnesau’n deall hynny. Mae gennym y sgiliau, yr isadeiledd, yr arbenigedd a chefnogaeth Llywodraeth Cymru i helpu busnesau i dyfu.
“Rydym wedi helpu pob un o’r prosiectau buddsoddi hyn fel llywodraeth sy’n cefnogi busnesau ac sy’n gweithio gyda diwydiant gan annog a chefnogi cwmnïau sydd am fuddsoddi yng Nghymru.
“Ar drothwy Cynhadledd Fuddsoddi DU Cymru 2014, ni allwn fod wedi dymuno hysbyseb well ar gyfer sgiliau a llwyddiant Cymru wrth inni hyrwyddo Cymru fel y dewis cyntaf i fuddsoddwyr.”