Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Tachwedd 2014

Helpu cartrefi i gadw allan oerni’r gaeaf

Mae Plaid Cymru heddiw wedi amlinellu’r effaith ddifaol mae tlodi tanwydd yn gael ar Gymru, ac wedi amlinellu eu hymdrechion i helpu cwsmeriaid sydd yn wynebu rhai o’r prisiau ynni uwch.

Tynnodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros Gymunedau Cynaliadwy, Ynni a Bwyd Llyr Gruffydd sylw at ffigyrau sydd yn dangos yr amcangyfrifir bod 26% o aelwydydd yng Nghymru mewn tlodi tanwydd. Rhybuddiodd fod y cynnydd ym mhris ynni dros y blynyddoedd diwethaf wedi ychwanegu rhyw 20% i gost ynni, sydd yn debygol o olygu mai tanamcangyfrif yw’r ffigwr hwn.

Amlygodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros Gymunedau Cynaliadwy, Ynni a Bwyd hefyd ei waith i gefnogi cwsmeriaid nwy nad ydynt ar y grid i gael gwell bargen am eu hynni, gan ddweud wrth aelodau yr amcangyfrifir bod 400,000 o gartrefi yng Nghymru oddi ar rwydwaith nwy’r prifion. Mae’r cwsmeriaid hyn yn wynebu costau uwch ac nid ydynt yn cael llawer o warchodaeth fel cwsmeriaid.

Dywedodd y Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros Gymunedau Cynaliadwy, Ynni a Bwyd Llyr Gruffydd: “Yng Nghymru, rydym yn talu ar gyfartaledd 5-10% yn fwy am ein hynni nac mewn mannau eraill. Mae llawer o resymau am hyn, ond ar ben ein cyflogau is, mae’n golygu bod un o bob pedwar aelwyd mewn tlodi tanwydd.

“Er y gall cynlluniau Plaid Cymru i sefydlu cwmni ynni mewn dwylo cyhoeddus ac nid-am-ddifidend allu cynnig prisiau ynni is i gwsmeriaid, mae Plaid Cymru hefyd wedi dechrau gweithio i helpu cwsmeriaid nad ydynt ar gyflenwad nwy’r prifion.

“Yr wyf eisoes yn gweithio gyda chwsmeriaid nad ydynt ar y grid i ymladd am well bargen. Amcangyfrifir fod 400,000 o gwsmeriaid Cymreig heb eu cysylltu â’r prifion nwy, ac o ganlyniad, maent yn aml yn wynebu prisiau ynni uwch gyda llai o warchodaeth. Mae gwefan www.offgridcymru.org  Plaid Cymru yn dwyn y bobl hyn at ei gilydd fel y gallwn geisio eu helpu i ddod at ei gilydd a tharo gwell bargen ar gyfer eu hynni.

“Yn ogystal â hyn, rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol i ymladd am well gwarchodaeth i gwsmeriaid nad ydynt ar y grid.

“Wrth i’r gaeaf nesáu, bydd pobl ledled Cymru yn wynebu posibilrwydd gwael biliau gwresogi uwch, ond does dim rhaid iddi fod fel hyn. Gall cynlluniau arloesol Plaid Cymru ostwng biliau ynni i gwsmeriaid ledled Cymru, ymladd dros well bargen i ni i gyd.”

Rhannu |