Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Tachwedd 2014

Cyngor ar fwyta’n iach gan HCC

Mae cig coch yn elfen hollbwysig o ddiet cytbwys am ei fod yn cynnwys maetholion gwerthfawr sy’n llesol i’n hiechyd.

Am nad oes yr un bwyd ar ei ben ei hun yn cynnwys yr holl faetholion sydd eu hangen arnom, mae’n bwysig bwyta amrywiaeth eang o fwydydd i fod â diet iach.

Bydd Hybu Cig Cymru (HCC) yn mynychu cynhadledd Nursing in Practice yr wythnos nesaf i bwysleisio’r negesau pwysig hyn i gynulleidfa o bobl broffesiynol ym maes iechyd.

Mae’r digwyddiad pwysig hwn yn denu dros 200 o unigolion sy’n gweithio mewn practisau meddygon teulu ar draws Cymru a Gorllewin Lloegr. Byddant yn ymgynnull yng Nghaerdydd er mwyn clywed arbenigwyr yn trafod amryw o bynciau amserol ac i gymryd rhan mewn seminarau a chyfarfod â chydweithwyr proffesiynol blaenllaw eraill.  Yn eu plith, bydd darparwyr gwasanaeth, gweithwyr elusennol, pobl diwydiant ac amryw eraill.

Dywedodd Elwen Roberts, Swyddog Defnyddwyr HCC: “Yn aml iawn, nyrs practis yw’r person cyntaf y bydd pobl yn cwrdd wrth ymweld â’u meddygfeydd.

“Ein nod yw gweithio gyda’r nyrsys hyn i wneud yn siŵr fod negesau’n cael eu trosglwyddo’n rheolaidd ynglŷn â’r maetholion mewn cig coch, sy’n cynnwys haearn, sinc, protein, seleniwm a fitaminau B a D, yn ogystal â buddion bwyta cig oen, cig eidion a phorc – os ydynt yn cael eu cyfuno ag elfennau hanfodol eraill sy’n rhan o ffordd iach o fyw.

“Bydd ymarferwyr proffesiynol yn cael eu hatgoffa am y buddion hyn yn ystod y digwyddiad a bydd taflenni ar gael sy’n esbonio sut i gynnwys cig coch fel rhan o ddiet iach.”

Gofynnir i nyrsys gymryd rhan mewn cwis a fydd yn esbonio faint o fraster sydd mewn cig coch. Mae cig eidion wedi’i drimio’n cynnwys pump y cant o fraster ar gyfartaledd, gyda phedwar y cant mewn porc heb lawer o fraster ac wyth y cant mewn cig oen heb lawer o fraster.

Cynhelir y gynhadledd ddydd Mawrth 25 Tachwedd yng ngwesty Mercure Holland House. Mae rhagor o wybodaeth a chopi o daflen y digwyddiad ar y wefan: http://www.nursinginpractice.com/cardiff

Mae HCC wedi cyhoeddi cyfres o lyfrynnau gwybodaeth sy’n cyflwyno ffeithiau am gig coch a phrotein, maetholion, haearn a braster. Mae’r rhain ar ein gwefan:  http://hccmpw.org.uk/education/health_and_diet/red_meat_and_nutrition/

Rhannu |