Mwy o Newyddion
Addysg Gymraeg: angen twf ar fyrder
Os yw Addysg Gymraeg am ehangu; rhaid gosod yr amodau cywir er mwyn caniatáu twf ar fyrder. Dyma fydd neges Cynhadledd a Chyfarfod Blynyddol RhAG a gynhelir ar ddydd Sadwrn, 22 Tachwedd yn Ysgol Gymraeg Treganna, Caerdydd.
Uchafbwynt y dydd i aelodau a chefnogwyr fydd anerchiad yr ystadegydd Hywel Jones, fydd yn ‘Dehongli ystadegau addysg’ yng nghyd-destun addysg Gymraeg.
Meddai Lynne Davies, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG: “Rhaid gofyn y cwestiwn sylfaenol: a ydym yn gweld cynnydd go iawn, a hynny’n ddigon cyflym? Ar y cyfan rydym yn symud i’r cyfeiriad cywir ond mai cropian yr ydym, a hynny’n llawer rhy araf tuag at y nod. Rhaid gwaredu’r rhwystrau niferus sy’n parhau i lyffetheirio Addysg Gymraeg a symud i ffwrdd o’r tueddiad parhaus i drin a thrafod y maes mewn modd sy’n ddarniog, yn ynysig ac ymylol.
“Rydym yn parhau i frwydro yn erbyn bygythiadau sy’n peri maen tramgwydd rhag cynnydd pellach e.e. toriadau i ddarpariaeth meithrin, torri cludiant 16+ am ddim a diffyg lleoedd Dechrau’n Deg trwy gyfrwng y Gymraeg. Mewn cyfnod o gynni mae’r Awdurdodau Lleol yn gweld cyfleoedd am arbedion hawdd, heb lawn sylweddoli’r effaith andwyol ar dwf addysg Gymraeg. Yn barod mae’r Llywodraeth wedi cydnabod na fydd modd cyrraedd targedau’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg ar gyfer 2015, ac felly dan yr amodau presennol: pa obaith sydd o gyflawni targedau 2020?”
Ychwanegodd Ceri Owen, Swyddog Datblygu RhAG, “Partneriaeth yw hon rhwng llywodraeth ganol a lleol gyda chyfrifoldebau neilltuol gan y ddwy ochr. Mae angen i’r siroedd bennu targedau clir a chydlynol yn seiliedig ar y weledigaeth fod dyletswydd arnynt bellach nid yn unig i ddiwallu’r galw ond yn hytrach i hybu twf. Ar y cyfan does dim llawer o dystiolaeth bod hynny’n digwydd ar hyn o bryd. Yn yr un modd mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu proses graffu a gwerthuso cadarn a llym. At hynny, mae angen iddynt berchnogi’r cyfrifoldebau ynghlwm â hyrwyddo addysg Gymraeg mewn modd sy’n llawer mwy blaengar a dychmygus.
“Galwn ar lywodraeth ganol a lleol yng Nghymru i ystyried addysg Gymraeg fel pecyn cyfannol a chyfunol sydd wedi’i brif ffrydio trwy holl raglen deddfwriaethol a pholisi Llywodraeth Cymru ac ar draws holl adrannau ein cynghorau sir. Rhaid troi dyheadau rhieni ac ewyllys gwleidyddol cenedlaethol yn weithredu o ddifrif ar lawr gwlad – allwn ni ddim cyfiawnhau afradu mwy o amser.”