Mwy o Newyddion
Lansiad strategaeth iaith Gwynedd
Ar ddydd Mercher, 19 Tachwedd am 9.30 yb yn Nant Gwrtheyrn fe fydd hunaniaith yn lansio Strategaeth Iaith Gwynedd 2014 - 2017.
hunaniaith ydy’r corff sy’n gweithredu fel Menter Iaith yng Ngwynedd. Gweithia law yn llaw a Chyngor Gwynedd ynghyd ac mewn partneriaeth gyda nifer o gyrff eraill i sicrhau ffyniant y Gymraeg drwy gynllunio ieithyddol. Mae pwyslais yng ngwaith hunaniaith ar weithio gydag ystod o bartneriaid i gyflawni ei amcanion ar lefel strategol.
Nod y Strategaeth yw cryfhau’r Gymraeg fel iaith ar yr aelwyd, yn yr ysgol, yn y gymuned ac yn y gweithle. Yn ogystal â gweithredu’n strategol bydd pwyslais arbennig ar weithio gyda grwpiau cymuned ar lawr gwlad i hybu’r defnydd o’r Gymraeg drwy gyfrwng brwdfrydedd a gallu pobl leol i adnabod dulliau effeithiol o weithredu yn eu cymunedau.
Dywedodd Dafydd Iwan, Cadeirydd Grŵp Strategol hunaniaith: “Nid gwaith hawdd yw cynllunio ieithyddol yn y tymor hir. Credwn, ar sail ymchwil trylwyr a wnaed i’r hyn sydd wedi bod yn digwydd yng nghymunedau, ysgolion a gweithleoedd Gwynedd dros y blynyddoedd diwethaf y bydd y Strategaeth Iaith newydd hon yn troi’r llanw o blaid y Gymraeg.”
Mae’r Strategaeth yn nodi'r meysydd i’w blaenoriaethu ar gyfer gweithredu. Mae ynddi hefyd ddadansoddiad sut eithr i'r afael â’r dasg enfawr o sicrhau cyrraedd ein targed heriol, sef: “Sicrhau cynnydd o 5% yng nghanran y boblogaeth sydd yn gallu siarad Cymraeg yng Ngwynedd erbyn 2021”.
Bydd y Strategaeth y canolbwyntio ar chwech o feysydd gweithredu sy’n cynnwys y teulu; plant a phobl ifanc; cymunedau a’r seilwaith sy’n sicrhau fod y Gymraeg yn cael y gofod i ffynnu.
Mae dull gweithredu wedi ei fabwysiadau gan y Strategaeth sy’n canolbwyntio ar roi cyfleodd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ynghyd ac ennyn yr awydd a’r hyder yn nhrigolion Gwynedd i’w defnyddio fwy fwy yn eu bywydau dydd i ddydd.