Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Tachwedd 2014

Mwyafrif eisiau i Gymru gael yr un pwerau newydd â’r Alban

Mae mwyafrif llethol pobl Cymru eisiau i’r Cynulliad gael yr un pwerau newydd â’r pwerau fydd yn cael eu rhoi i Senedd yr Alban, yn ôl arolwg barn newydd gan YouGov.

Cynhaliwyd yr arolwg rhwng 23 a 30 Hydref ar ran Yes Cymru – grŵp newydd trawsbleidiol ac amhleidiol o blaid annibyniaeth i Gymru, a oedd hefyd yn gyfrifol am drefnu rali lwyddiannus ‘Cymru’n Cefnogi Ie’ y tu allan i’r Senedd yng Nghaerdydd ar 13 Medi.

O’r rhai a leisiodd eu barn, roedd 63% yn cytuno y “dylai’r pwerau sy’n cael eu datganoli fod yr un pwerau â’r Alban” gyda 37% yn anghytuno.

Roedd y gefnogaeth ar ei chryfaf ymhlith pobl sy’n bwriadu pleidleisio i Blaid Cymru yn etholiadau nesaf San Steffan (85%) ond roedd hefyd yn gryf iawn ymhlith y rhai sy’n bwriadu pleidleisio i’r blaid Lafur (70%) a hyd yn oed ymhlith y rhai sy’n bwriadu pleidleisio i UKIP (55%). Fel yn achos yr Alban, roedd y gefnogaeth ar ei chryfaf ymhlith pobl ifanc, gyda 73% o bobl rhwng 18 a 24 oed yn credu y dylai’r pwerau fydd yn cael eu datganoli i Gymru fod yr un peth â’r Alban.

Roedd cefnogaeth ym mhob un o ranbarthau Cymru, gyda’r gefnogaeth gryfaf yn rhanbarthau Caerdydd a Chanol De Cymru (68%) a Gorllewin De Cymru (69%).

Meddai Iestyn ap Rhobert, llefarydd ar ran YesCymru: “Mae’r arolwg yma yn newyddion gwych. Mae’n dangos bod pobl Cymru yn gryf ac yn gyson eu cefnogaeth i gydraddoldeb gyda’r Alban, gyda chefnogaeth gref gan sawl rhan o’r gymdeithas. Mae dyletswydd ar y pleidiau i gyd i gadw lan gyda’r newid mae’r etholwyr yn dymuno ei weld.”

“Yn draddodiadol, rydyn ni yng Nghymru wedi bod yn geidwadol o ran anelu i fod yn genedl-wladwriaeth lawn yn Ewrop. Mae’r arolwg yma yn dangos bod pobl Cymru am weld mwy o benderfyniadau yn cael eu gwneud yma yng Nghymru, ac maen nhw eisiau cael eu trin yn gydradd gyda’n ffrindiau yn yr Alban.”

“Rydyn ni’n galw ar Lywodraeth Cymru, a phob plaid yn y Cynulliad, i sicrhau nad yw Cymru yn cael ei gadael ar ôl, ac i fynnu bod Cymru yn cael o leiaf yr un pwerau â’r hyn sy’n cael ei gynnig i’r Alban.”

Rhannu |