Mwy o Newyddion
Galluogi awduron i barhau i greu
MAE dau ddeg pedwar o awduron, yn cynnwys chwech awdur newydd, wedi derbyn Ysgoloriaethau i Awduron Llenyddiaeth Cymru 2011.
Mae’r Ysgoloriaethau gwerth cyfanswm o £90,000, a byddant yn galluogi’r awduron i gymryd amser i ffwrdd o’u gwaith beunyddiol er mwyn canolbwyntio ar ysgrifennu creadigol.
Yn ogystal â chefnogi awduron newydd, dyfarnwyd ysgoloriaethau i nifer o awduron cyhoeddedig yn ogystal. Bydd awduron 2011 yn creu ffuglen, barddoniaeth, hunangofiant, a straeon byrion.
Eleni, am y tro cyntaf, dyfarnwyd ysgoloriaethau ar gyfer nofelau graffeg. Bydd yr artist a’r cartwnydd Huw Aaron yn cymryd amser o’i waith i ail greu Y Gododdin ar ffurf nofel graffeg, yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Bydd ysgoloriaeth yr awdur a’r golygydd Alan Llwyd yn caniatáu iddo gymryd amser i ffwrdd o’i waith gyda Barddas er mwyn canolbwyntio ar gwblhau ei gyfrol Bob: Cofiant R Williams Parry.
Bydd yr ysgoloriaethau’n esgor ar dair cyfrol newydd o farddoniaeth yn y Gymraeg. Bydd y Prifardd Tudur Hallam yn cymryd amser o’i waith academaidd er mwyn canolbwyntio ar gwblhau ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth.
Bydd Gwyneth Lewis yn ysgrifennu cyfrol newydd o farddoniaeth yn y Gymraeg. Bydd Cerddi Anhysbys yn archwiliad o’r hunan mewn perthynas â isymwybod iaith ar ffurf dywediadau gwerin.
Mae’r Panel Ysgoloriaethau’n falch iawn i gefnogi chwech o awduron newydd nad sydd wedi cyhoeddi cyfrol o’u gwaith hyd yn hyn. Bydd Ysgoloriaeth i Awduron Newydd yn caniatáu i Mari Lisa ganolbwyntio ar gwblhau ei chyfrol gyntaf o gerddi amrywiol caeth a rhydd, yn y Gymraeg.
Bwriada Aled Jones-Williams ysgrifennu nofel newydd Eneidiau. Mae’r prif gymeriad, Tom Rhydderch eisoes wedi ymddangos mewn nofel arall gan Aled, Yn Hon Bu Afon Unwaith. Ond nid dilyniant yw’r nofel newydd, yn hytrach fe saif ar ei phen ei hun.
Bydd yr awdur a’r golygydd Meic Stephens yn canolbwyntio ar ysgrifennu ei hunangofiant.
Bwriada Arwel Vittle ysgrifennu dwy nofel ffantasi ar gyfer pobl ifainc, sef Y Tŵr ar Ymyl y Byd ac Yr Ardd ar Ymyl y Byd. Bydd y ddwy yn ddilyniant i’r Ddinas ar Ymyl y Byd, ac yn cwblhau’r drioleg.
Ymhlith yr awduron sydd wedi derbyn Ysgoloriaethau ar gyfer eu gwaith Saesneg mae: Emily Hinshelwood, Robert Minhinnick, Rachel Trezise, Cynan Jones, Susie Wild, Tia Jones, Lorraine Jenkin, ac Angharad Penrhyn Jones.
Dywedodd Katie Gramich, Cadeirydd Panel Ysgoloriaethau Llenyddiaeth Cymru: “Mae ansawdd llenyddol peth o’r gwaith sydd ar y gweill rydym yn gallu ei noddi yn arbennig iawn ac fe ddengys bod Cymru’n parhau i gynhyrchu talent llenyddol o’r radd flaenaf.”
Dywedodd Peter Finch, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae Ysgoloriaethau’n fwyfwy pwysig mewn cyfnodau ariannol anodd.
“Dydy Cymru erioed wedi cynhyrchu cymaint o awduron o’r radd flaenaf. Mae galluogi’r awduron i barhau i greu yn ganolog i waith Llenyddiaeth Cymru.
“Mae ein cynllun Ysgoloriaethau, sy’n prynu amser i’r awduron o’u gwaith beunyddiol er mwyn ysgrifennu, yn taro’r hoelen honno ar ei phen.