Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Tachwedd 2014

Dŵr Ymdrochi yng Nghymru yn derbyn y dosbarth uchaf

Mae canlyniadau ansawdd dŵr ymdrochi yng Nghymru yn dangos bod mwy o ddŵr ymdrochi nag erioed o'r blaen wedi bodloni'r safonau Ewropeaidd uchaf.  
 
O'r 102 o ddyfroedd ymdrochi yng Nghymru, roedd 90 yn cyrraedd y safon Ewropeaidd Gorfodol.  Mae'r canlyniadau hyn yn dangos ansawdd gwych y dyfroedd ymdrochi y gall pobl Cymru yn ogystal ag ymwelwyr ei fwynhau. 
 
Wrth gynnig sylwadau am y canlyniadau, dywedodd Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol:  “Mae ein dŵr ymdrochi yn adnodd naturiol pwysig sy'n dod â manteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd i Gymru gyfan, gyda'n traethau gwych a'n harfordiroedd prydferth y mae miloedd  yn eu mwynhau bob blwyddyn.  

“Dwi'n falch iawn o weld Cymru yn sicrhau'r canlyniadau rhagorol hyn o dymor ymdrochi 2014.  Mae'n rhaid inni nawr barhau i gydweithio gyda'n partneriaid i ychwanegu at y safonau uchel yr ydym wedi'u gosod fel y gall cymunedau ledled Cymru a thu hwnt barhau i ymdrochi mewn dŵr o'r safon uchaf yng Nghymru am flynyddoedd i ddod." 

Mae ystadegau dŵr ymdrochi yng Nghymru'n cael eu cymryd o samplau gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheolaidd yn ystod y tymor ymdrochi (15 Mai i 30 Medi) ac yn cael eu cadarnhau gan y Comisiwn Ewropeaidd. 
 
Meddai Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:  “Mae canlyniadau yr haf yn dangos bod pobl sy'n ymdrochi yn gallu mwynhau dŵr glân o'n traethau gwych. 
 
“Mae ein harfordir a Llyn Padarn, y llyn cyntaf yng Nghymru i gael ei ddynodi yn ddŵr ymdrochi, yn atyniadau mawr i ymwelwyr yng Nghymru, ac yn rhan bwysig o'r economi.  
 
“Mae safonau newydd mwy llym ar gyfer dŵr ymdrochi yn cael eu cyflwyno y flwyddyn nesaf, sy'n dosbarthu dŵr dros bedair blynedd ar gyfartaledd yn hytrach nag un. 
 
“Mae amcanestyniadau cynnar yn dangos bod tri-chwarter y dyfroedd ymdrochi yn cyrraedd y safon rhagorol y flwyddyn nesaf, sy'n newyddion da i bobl, amgylchedd ac economi Cymru."  
 

Llun: Llyn Padarn

Rhannu |