Mwy o Newyddion
Lansio ymgynghoriad ar reoliadau drafft ar gyfer y set gyntaf o Safonau'r Gymraeg
Heddiw fe wnaeth Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, lansio ymgynghoriad pedair wythnos ar y rheoliadau drafft a fydd, maes o law, yn Safonau'r Gymraeg.
Bydd y set gyntaf o safonau yn mynd gerbron y Cynulliad ym mis Mawrth 2015, a byddant yn ymdrin â Chynghorau Bwrdeistref Sirol a Chynghorau Sir, Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol a Gweinidogion Cymru.
Nod y Safonau yw:
* Gwella'r gwasanaethau Cymraeg y gall siaradwyr Cymraeg eu disgwyl gan sefydliadau
* Annog pobl i ddefnyddio gwasanaethau Cymraeg yn fwy
* Ei gwneud yn glir i sefydliadau yr hyn y mae angen iddynt ei wneud o ran y Gymraeg
* Sicrhau cysondeb priodol o ran y dyletswyddau a roddir ar gyrff yn yr un sector.
Wrth lansio'r ymgynghoriad, dywedodd y Prif Weinidog: “Bydd dyfodiad y Safonau'n garreg filltir bwysig. Nid yn unig y byddant yn creu hawliau cyfreithiol clir ond byddant hefyd yn gwella gwasanaethau ac yn darparu mwy o gyfleoedd i bobl gael a defnyddio gwasanaethau Cymraeg ledled Cymru.
“Wrth lunio'r rheoliadau rwyf wedi gwrando ar farn aelodau'r cyhoedd, ar y sefydliadau a fydd yn ddarostyngedig iddynt, ac ar Gomisiynydd y Gymraeg. Mae'r ymgynghoriad hwn dros bedair wythnos yn gyfle pellach i bawb sydd â diddordeb yn y safonau i ddweud eu dweud cyn iddynt fynd gerbron y Cynulliad fis Mawrth nesaf. Gobeithio y bydd pobl ymhob rhan o Gymru yn cymryd rhan ac yn rhannu eu barn.”
Bydd yr ymgynghoriad ar y rheoliadau drafft yn dod i ben ar 5 Rhagfyr 2014.