Mwy o Newyddion
Monitro morloi chwareus yn bleser pur
Yn y moroedd o amgylch Ynys Sgomer mae morloi chwareus wedi mentro’n agos iawn at swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae staff CNC wedi bod wrthi’n brysur eleni yn cwblhau cyfres o brosiectau monitro tanddwr yng Ngwarchodfa Natur Forol Sgomer, ond mae’r lluniau fideo a dynnwyd yn dangos mai ‘haws dweud na gwneud’ pan fydd y morloi’n penderfynu ei bod hi’n amser chwarae.
Penderfynodd un morlo ddefnyddio bwi un o’n deifars fel tegan glan môr, tra penderfynodd un arall wneud ffrindiau ag asgell.
Yr adeg yma o’r flwyddyn y morloi eu hunain yw’r canolbwynt wrth i dîm CNC gynnal eu harolwg blynyddol ar loi bach morloi llwyd.
Mae Sir Benfro yn gartref i 4 y cant o boblogaeth morloi llwyd y DU a chaiff oddeutu 900 o loi bach eu geni yno bob blwyddyn, gyda mwy na 300 o loi bach yn cael eu geni yng ngwarchodfa Sgomer.
Meddai Philip Newman, Swyddog Gwarchodfa Natur Forol: “Y boblogaeth o forloi llwyd o amgylch Sir Benfro yw’r fwyaf yn ne-orllewin Prydain ac mae’n nodwedd bwysig o Warchodfa Natur Forol Sgomer. Felly, mae hi’n bwysig inni gadw golwg ar y niferoedd i weld sut maen nhw’n dod yn eu blaenau.”
Rhwng Awst a diwedd Tachwedd bydd y swyddogion yn ymweld yn rheolaidd â’r lloi bach a bydd datblygiad pob un ohonynt yn cael ei gofnodi o’u genedigaeth hyd nes y byddant yn bwrw’u cot wen gyfarwydd – proses sy’n cymryd oddeutu tair wythnos.
Meddai Philip: “Mae’r moroedd o amgylch Sgomer yn ferw o fywyd gwyllt ac mae’r morloi ymhlith y trigolion mwyaf poblogaidd.
“Nid yn unig maen nhw’n rhan bwysig o ecosystem forol y warchodfa, ond maen nhw hefyd yn bwysig i’r economi leol, gan helpu i ddenu ymwelwyr i’r ardal.”
Bydd canlyniadau’r arolwg ar gael yn gynnar y flwyddyn nesaf.