Mwy o Newyddion
Annog diogelwch safleoedd adeiladu ymhlith disgyblion Ysgolion Groeslon, Carmel a Bronyfoel
Yn ddiweddar cafodd gwaith celf gan ddisgyblion o Ysgol Groeslon, Ysgol Carmel ac Ysgol Bronyfoel eu dadorchuddio ar safle adeiladu ysgol ardal newydd yn Y Groeslon.
Mae gwaith ar y prosiect £4.8 miliwn i adeiladu ysgol newydd i wasanaethau cymunedau’r Groeslon, Carmel a’r Fron yn symud ymlaen yn dda, a disgwylir i’r ysgol groesawu’r disgyblion cyntaf ym mis Medi 2015.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd: “Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan holl blant Gwynedd fynediad i gyfleusterau addysg o’r radd flaenaf. Rydym yn hyderus bydd yr ysgol ardal newydd hon gwerth £4.8 miliwn yn sicr o ddarparu plant y tair cymuned yma gydag ysgol hyfryd newydd sbon fydd yn caniatáu iddynt wireddu eu potensial.
“Wrth i’r gwaith ar yr ysgol sydd fawr ei angen barhau, mae’n wych fod disgyblion o’r tair ysgol wedi cael y cyfle i gyfrannu i’r prosiect gan ddysgu am y gwaith adeiladu a’r peryglon o fynd i mewn a chwarae ar safleoedd adeiladu.”
Cymerodd ddisgyblion o Ysgol Groeslon, Ysgol Carmel ac Ysgol Bronyfoel ran mewn cystadleuaeth dylunio poster iechyd a diogelwch, wedi ei drefnu gan y contractwyr Watkin Jones, i bwysleisio peryglon safleoedd adeiladu i’w arddangos ar fyrddau sydd yn amgylchynu’r safle adeiladu. Fel rhan o’r gystadleuaeth bu cynrychiolwyr o Watkin Jones yn yr ysgolion yn cynnal sesiynau yn esbonio peryglon safleoedd adeiladu. Cafodd y disgyblion hefyd gyfle i wisgo fel Rheolwyr Safle adeiladu gyda hetiau caled, esgidiau pwrpasol, siacedi ‘hi-vis’, menig ac amddiffynwyr clustiau.
Meddai’r Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy’n arwain ar faterion eiddo: “Fel rhan o’r prosiect, ymrwymodd Watkin Jones i ymgorffori manteision cymunedol i’r cynllun drwy ddefnyddio gweithwyr ac isgontractwyr lleol, gwneud y mwyaf o’r gadwyn gyflenwad lleol a chynnwys y gymuned mewn ffyrdd gwahanol megis y gystadleuaeth yma yn ysgolion yr ardal.
“Llongyfarchiadau i’r holl ddisgyblion wnaeth gymryd rhan yn y gystadleuaeth, yn enwedig y tri ddaeth i’r brig; mae’r posteri yn ychwanegiad lliwgar i’r safle adeiladu.”
Ychwanegodd Rheolwr Cyfathrebu Watkin Jones, Kerry Williams: “Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’r gymuned leol, ac rydym yn hynod falch o allu cynnal y gystadleuaeth yma gydag Ysgol Bronyfoel, Ysgol Carmel ac Ysgol Groeslon. Mae wedi bod yn wych gweld gymaint o ddisgyblion yn cymryd rhan gan lunio poster, ac rydym wedi ein siomi o’r ochr orau gyda’r holl geisiadau. Da iawn i’r holl ddisgyblion.”
Bydd yr ysgol newydd yn cwrdd â holl ofynion Llywodraeth Cymru ar gyfer Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain. Bydd yn cynnwys ystafelloedd dosbarth, ystafelloedd grŵp, gofod ymarferol, neuadd fodern, cyfleusterau ar gyfer staff a sawl ardal chwarae i’r plant. Bydd yr adeilad hefyd gyrraedd lefelau perfformiad amgylcheddol uchaf posibl.
I ddilyn proses adeiladu’r ysgol ardal newydd, chwiliwch am: Watkin Jones Ysgol Ardal Groeslon ar Facebook neu dilynwch @WJ_GroeslonC ar Twitter.
Llun: Enillwyr y gystadleuaeth llunio poster - Brooke Fletcher, Ysgol Bronyfoel; Elis Massareli-Hughes, Ysgol Carmel ac Elin Lloyd, Ysgol Groeslon.