Mwy o Newyddion
Hawliau newydd i gwyno am wasanaethau gofal lliniarol a gwasanaethau cymdeithasol preifat
Mae pobl yng Nghymru sy’n ariannu eu gofal cymdeithasol eu hunain neu’n derbyn gofal lliniarol bellach yn gallu gwneud cwynion am y gwasanaethau hynny i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o dan newid i’r gyfraith a ddaeth i rym yr wythnos ddiwethaf.
Mae’r newid yn cael ei gyflwyno o ganlyniad i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae darpariaeth yn y ddeddf honno, ymysg pethau eraill, yn diwygio Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005.
Mae gan yr Ombwdsmon bwerau cyfreithiol i ymchwilio i gwynion am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Hyd yma, mae’r Ombwdsmon wedi cael ymchwilio i gwynion ynghylch gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a ddarperir neu a gomisiynir gan awdurdod lleol neu fwrdd iechyd lleol yn unig.
Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad estynedig ‘Gwneud Pethau’n Well’ yn 2012, lle holwyd pobl ynghylch mynediad at eiriolaeth a chymorth, ac a ddylid caniatáu i’r Ombwdsmon ystyried cwynion ynghylch gwasanaethau gofal lliniarol a gofal cymdeithasol a drefnir neu a ariennir yn breifat.
O ganlyniad, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cynnwys y ddarpariaeth ofynnol sy’n caniatáu i’r Ombwdsmon ystyried cwynion gan bobl sy’n ariannu eu gofal cymdeithasol eu hunain neu’n derbyn gofal lliniarol.
Mae’r pwerau newydd hyn i’r Ombwdsmon yn ategu rheoliadau newydd a ddaeth i rym ar 1 Awst 2014 sy’n cyflwyno gweithdrefn gwynion dau gam ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol. Mae’r broses honno yn cysoni’r broses gwynion ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a’r Polisi Pryderon a Chwynion Enghreifftiol a Chanllawiau sydd wedi’u mabwysiadu ar draws gwasanaethau cyhoeddus, er enghraifft Gweithio i Wella gan y GIG. Y nod yw gwella profiad pobl sy’n gwneud cwynion am wasanaethau cymdeithasol.
Mae cleifion fel arfer yn derbyn gofal lliniarol ar ôl cael gofal canser clinigol dwys gan y GIG. Yn achos gwasanaethau’r GIG, gall cleifion neu deuluoedd wneud cwyn i sefydliad y GIG a fydd yn ymchwilio i’r mater; gallant droi at yr Ombwdsmon os ydynt yn parhau i fod yn anfodlon. Drwy gydol y broses hon, gall cleifion ofyn am gymorth gan eiriolwr a fydd yn eu helpu i wneud eu cwyn.
Yn yr adroddiad blynyddol gofal diwedd oes a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon, y sgôr ar gyfartaledd ar gyfer adborth gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol oedd 9.56 o 10 yn ôl canlyniadau arolwg iWantGreatCare.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford: “Mae ymestyn cylch gorchwyl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ymdrin â gwasanaethau gofal lliniarol a gofal cymdeithasol a drefnir neu a ariennir yn breifat yn gam mawr ymlaen i ddinasyddion a fydd yn cyfrannu at ein hamcan o wella gofal a chymorth i bawb.
“Mae’r pwerau newydd hyn ymysg y cyntaf i ddeillio o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac maen nhw’n dangos yn glir bod gan bawb sy’n gwneud cwyn am y gofal y maen nhw’n ei dderbyn yr hawl i gael gwrandawiad a bod rhywun yn mynd i’r afael â’u pryderon mewn ffordd effeithiol.”