Mwy o Newyddion
Syr Ian McKellen yn cefnogi ymgyrch yn erbyn bwlio homoffobaidd
Cafodd disgyblion un o ysgolion Cymraeg Caerdydd brofiad arbennig wrth i seren Lord of the Rings, Syr Ian McKellen, alw heibio i ganmol disgyblion am eu gwaith yn taclo iaith homoffobaidd yn eu hysgol. Mae Ysgol Plasmawr yn un o aelodau cyntaf rhaglen Hyrwyddwyr Ysgolion Stonewall Cymru, yr unig raglen o’r fath, sy’n cefnogi ysgolion i ddathlu amrywiaeth ac i ddangos pa mor hoyw-gyfeillgar ydyn nhw.
Daeth y disgyblion i mewn yn ystod gwyliau’r hanner tymor gan roi eu hamser sbâr er mwyn siarad gyda Syr Ian McKellen am yr angen i herio iaith homoffobaidd. Rhoddodd y grŵp groeso i’r actor a’r ymgyrchydd hawliau dynol gyda pherfformiad a oedd yn tynnu sylw at y pwysau sy’n wynebu disgyblion hoyw yn aml iawn. Gyda chefnogaeth athrawon, mae’r disgyblion wedi sefydlu grŵp drama a chynghrair syth a hoyw o’r enw DIGON.
Digwyddodd ymweliad Syr Ian wrth i Stonewall Cymru baratoi i lansio pecyn hyfforddi newydd ar gyfer athrawon, sy’n rhoi’r hyder a’r technegau angenrheidiol i staff ysgolion i daclo bwlio homoffobaidd a dathlu gwahaniaeth. Dangosodd Adroddiad Ysgol Stonewall Cymru yn 2012 fod 99 y cant o bobl ifanc lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru yn clywed iaith homoffobaidd yn yr ysgol, a bod mwy na’u hanner wedi profi bwlio homoffobaidd.
Bydd y rhaglen hyfforddi yn gefnogaeth i ysgolion fodloni gofynion fframwaith arolygu Estyn. Bydd ysgolion sy’n cymryd rhan yn dod yn Hyrwyddwyr Ysgolion Stonewall Cymru gan ddangos sut maen nhw’n cefnogi eu disgyblion lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws. Mae anogaeth i ysgolion edrych ar eu polisïau ar gyfer taclo bwlio homoffobaidd, ac a oes cymdeithasau a digwyddiadau yn dathlu gwahaniaeth, a’r camau maen nhw’n eu cymryd i gefnogi staff hoyw. Bydd Hyrwyddwyr Ysgolion Stonewall Cymru hefyd yn cael ymweliadau gan fodelau rôl hoyw amlwg, gan gynnwys enwogion ac aelodau o’r Lluoedd Arfog.
Meddai Syr Ian McKellen: ‘Does dim byd yn bwysicach i fi na gallu helpu pobl ifanc hoyw i sylweddoli bod dyddiau gwell i ddod iddyn nhw. Rydw i’n teimlo balchder bod Stonewall – mudiad y gwnes i helpu i’w sefydlu er mwyn taclo homoffobia cyfreithlon – bellach yn arwain y frwydr yn ysgolion Prydain lle mae bwlio homoffobaidd yn difetha bywydau gormod o bobl ifanc. Mae’n fraint cael chwarae rhan fach yn y gwaith o roi diwedd ar hynny.’
Meddai Marc Lewis, sy’n athro yn Ysgol Plasmawr: ‘Mae gwaith ar homoffobia a bwlio homoffobaidd yn rhan hanfodol o ymrwymiad unrhyw ysgol i addysgu’r plentyn cyfan. Mae disgyblion Plasmawr wedi cymryd cydraddoldeb o ddifrif ac maen nhw’n hyrwyddo neges gadarnhaol gan bobl ifanc, i bobl ifanc: mae bod yn chi eich hunan yn beth da. Maen nhw wedi hyrwyddo’r neges yma gyda balchder yn yr ysgol, ac maen nhw’n gweld yr ysgol fel canolbwynt y gymuned, felly maen nhw wedi gallu cyfleu’r neges mewn fforymau cyhoeddus ledled y ddinas a’r tu hwnt. Mae ymweliad Syr Ian yn tynnu sylw at y gwaith da mae DIGON wedi’i wneud, ac yn ein hatgoffa ni am y gwaith sydd eto i’w wneud.’
Meddai Swyddog Addysg Stonewall Cymru, Dylan Aubrey Evans: ‘Rydyn ni wrth ein bodd bod Ysgol Plasmawr yn gweithio gyda ni i wneud popeth allan nhw i hyrwyddo cydraddoldeb ar gyfer disgyblion lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws. Fe wnaethon nhw argraff ar Syr Ian! Mae DIGON yn arwain y ffordd o ran gwneud eu hysgol yn lle i bobl ifanc lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws allu blodeuo.’
‘Rydyn ni’n gwybod bod mwyafrif yr athrawon yng Nghymru eisiau taclo bwlio homoffobaidd yn yr ysgol, ond does dim hyder gan y rhan fwyaf i wneud hynny. Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr ymweliad yma yn ysgogi gweithredu gan ysgolion eraill i ystyried anghenion eu disgyblion a’u teuluoedd.’