Mwy o Newyddion
Poeni ynglŷn â safon beirniaid
MAE enillydd cenedlaethol sydd bellach yn feirniad llefaru yn dweud ei fod yn poeni ynglŷn â safon beirniaid eisteddfodau cylch yr Urdd, ac mae’n dweud fod “gormod o actorion” sydd ddim yn deall y grefft yn cael eu dewis i dafoli cystadleuwyr llefaru profiadol.
Mae’r beirniad, sydd wedi siarad gyda Y Cymro ar yr amod ei fod yn cael aros yn ddienw, yn mynd yn bellach na hynny, trwy ddweud y dylai plant roi’r gorau i gystadlu dan eu henwau eu hunain mewn rhagbrofion cylch, a defnyddio rhifau. Dim ond ar ôl cyhoeddi enwau’r rhai sydd wedi cyrraedd y llwyfan, meddai, y dylid cyhoeddi enwau priodol y cystadleuwyr.
Ac ar ben hynny hefyd, mae’n credu y dylai hyfforddwyr a rhieni gael eu gosod i eistedd ymhell oddi wrth y cystadleuwyr, gan fod yna gymaint o feirniaid dibrofiad bellach yn ofni tramgwyddo’r enwau mawr neu’r rhieni sydd yn fodlon herio penderfyniadau.
I ddarllen mwy CLICIWCH YMA