Mwy o Newyddion
Awdurdodau lleol yng Nghymru yn cymryd camau cryfach yn erbyn sbwriel
Mae ystadegau newydd Llywodraeth Cymru’n dangos bod awdurdodau lleol wedi bod yn rhoi mwy o hysbysiadau cosb penodedig am droseddau amgylcheddol fel gollwng sbwriel a baw cŵn.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, gollwng sbwriel yw’r drosedd sy’n cael ei dirwyo amlaf (8,964 o hysbysiadau cosb), ac yna sbwriel smygu (3,854) a baw cŵn (732). Awdurdodau lleol sy’n pennu cosb o hyd at £75 am ollwng sbwriel, baw cŵn, graffiti a gosod posteri’n anghyfreithlon.
Meddai’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant: “Mae gollwng sbwriel, baw cŵn, graffiti, posteri heb ganiatâd a sŵn yn droseddau cwbl annerbyniol, ac yn bla ar gymunedau ledled Cymru.
“Un ffordd o daclo’r broblem yw gosod dirwy neu Hysbysiad Cosb Benodedig. Ac mae’n dda gweld bod awdurdodau lleol yn mynd yn fwy proactif i gosbi’r rheini nad ydyn nhw’n poeni’r un iot am y bobl o’u cwmpas.
“Mae ffigurau diweddar Cadw Cymru’n Daclus yn dangos bod strydoedd pob awdurdod lleol yn dod yn lanach. Mae hyn yn newyddion da ac mae’n dangos bod y mesurau gwahanol sydd at ddefnydd awdurdodau lleol ac eraill yn cael effaith adeiladol ar ein cymunedau.”