Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Hydref 2014

Galw am godi pont dros dro dros yr Afon Dwyryd

Mae Cynghorydd Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd, Gareth Thomas, Penrhyndeudraeth yn galw ar y contractwr sy’n gyfrifol am y cynllun £19.5miliwn i godi Pont Briwet newydd rhwng Penrhyndeudraeth a Thalsarnau i godi pont dros dro ar unwaith.

Daw galwad Y Cynghorydd Gareth Thomas yn dilyn cyhoeddiad y contractwr Hochtief, cwta wythnos yn ôl, y bydd oedi pellach i’r gwaith o godi’r bont newydd.

“Dwi’n gandryll,” meddai’r Cynghorydd. “Mae’r contractwr yn mynd yn ôl ar ei air eto, ac yn gweld bai ar bawb o’u cwmpas am yr oedi. Mae’n gywilyddus o beth bod cwmni proffesiynol sy’n gweithio ar fuddsoddiad anferthol i’r ardal hon, yn gwrthod derbyn cyfrifoldeb am yr oedi pellach ar y cynllun.

“Dwi wedi cael digon o wrando ar y sylwadau bod oedi i’r bont newydd oherwydd gwaith dŵr, gwaith trydanol, ceblau, bracedi…mae’n hen bryd i’r cwmni gymryd cyfrifoldeb.

“Dwi’n galw arnynt i ddefnyddio’r arian, gaiff ei ddefnyddio ganddynt ar hyn o bryd i hebrwng traffig ar hyd rhan o’r ffordd gul, i adeiladu pont dros dro i sicrhau bod pobl leol a busnesau yn cael chwarae teg. Mae’n hurt bod ni yn y fath sefyllfa, lle maen nhw’n mynd yn ôl ar eu gair dro ar ôl tro.

“Mae yna bobl fusnes yn dioddef yn enbyd oherwydd y gwaith yma. A thydw i ddim yn dweud hyn ar chwarae bach. Mae yna gwmnïau ym Mhenrhyndeudraeth sy’n dweud wrthyf fi bod eu busnesau ar y dibyn, a’i bod yn amau a welan nhw’r gaeaf yma, os parhaith y sefyllfa yma. Mae pobl yn osgoi’r ardal yn gyfan gwbl, mae cwmnïau yn talu llawer mwy am gludo deunydd i mewn ac allan o’r ardal ac mae’r gost amser i bobl sy’n gorfod teithio wyth milltir ychwanegol heibio Maentwrog ar hyd ffordd Harlech yn pentyrru.”

Mae’r sefyllfa yn ddyrys i lawer o gwmnïau yn yr ardal yn ôl y Cynghorydd, a bydd yn cyfarfod â chwmni Hochtief heddiw (dydd Iau, 16 Hydref) i holi iddynt ail ystyried eu cynlluniau. Mae’n credu y byddai adeiladu pont dros dro yn gwneud synnwyr busnes gan bod y Cwmni yn gwario’n sylweddol ar y system hebrwng ar hyn o bryd. Bydd yn galw ar y cwmni i adeiladu’r bont dros dro fel yr addawyd yn wreiddiol.

Un o’r busnesau ym Mhenrhyndeudraeth sy’n llawer distawach na’r arfer yw Cen Ap Tomos Cyf. cwmni trwsio ceir a cherbydau. Yn ôl y perchennog Cen Ap Tomos, mae’r gwaith dros yr Afon Dwyryd wedi effeithio ar ei fusnes ef a llawer un arall yn yr ardal.

“Mae’n ddistawach na’r arfer ers i’r gwaith gychwyn ar y bont nôl yn haf 2013, ac mae’r ffaith bod nifer ohonom yn cwyno yn arwydd pendant mai’r gwaith sy’n gyfrifol. Mae pawb yn colli amynedd ac yn digalonni, wrth feddwl y bydd raid i ni fwy am aeaf arall gyda’r ffordd ar gau. Mae ambell un yn dweud y bydd hi’n ddiwedd ar eu busnesau.

“Mewn ardal wledig fel hyn, lle mae’r economi’n ddibynnol ar fusnesau bach, byddai’n glec enfawr i weld cwmnïau’n cau. Yn bendant, byddai’n galondid mawr i ni weld pont dros dro yn cael ei gosod yn ei lle, cyn i’r bont newydd gael ei hagor yn haf 2015.”

Rhannu |