Mwy o Newyddion
Ymweliadau dirybudd heb ddangos unrhyw faterion systemig a oedd yn destun pryder am ofal cleifion mewn ysbytai
Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau 16 Hydref), roedd cyfres o ymweliadau dirybudd ag ysbytai cyffredinol dosbarth ledled Cymru, i brofi safonau gofal, heb weld “unrhyw faterion systemig a oedd yn destun pryder”.
Roedd y tîm annibynnol a oedd yn cynnal yr ymweliadau ar y wardiau wedi gweld nifer o enghreifftiau o arferion da a nodedig, a bod y rheini’n gwrthbwyso o bell ffordd unrhyw enghreifftiau prin lle y gwelwyd gwendidau yn y gofal.
Bydd yr ymweliadau dirybudd hyn yn cael eu cynnal hefyd i edrych ar safon y gofal y mae cleifion hŷn yn ei derbyn ar wardiau iechyd meddwl mewn ysbytai.
Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a oedd wedi gofyn i'r ymweliadau dirybudd gael eu cynnal fel rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i adolygiad annibynnol o'r gofal yn Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, gan yr Athro June Andrews a Mark Butler.
Roedd yr adroddiad, sef Ymddiried mewn Gofal, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Mai, wedi tynnu sylw at nifer o bryderon difrifol am ansawdd y gofal ac am ddiogelwch cleifion mewn ambell faes yn rhai o wardiau'r ddau ysbyty, sydd dan ofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.
Yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad hwnnw, roedd yr Athro Drakeford wedi gorchymyn cyfres o gamau i'w gweithredu ar unwaith, er mwyn sicrhau nad oedd y pryderon penodol a welwyd yng ngofal cleifion hŷn Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot i'w gweld mewn ysbytai eraill ar hyd a lled Cymru.
Cynhaliwyd yr ymweliadau dirybudd â wardiau cleifion mewnol i oedolion mewn ysbytai cyffredinol dosbarth yng Nghymru gan dîm annibynnol o uwch unigolion, dan oruchwyliaeth yr Athro Andrews, Syr Ian Carruthers a'r Athro Phil Routledge. Academydd blaenllaw o'r Alban yw'r Athro Andrews, mae Syr Ian Carruthers yn gyn brif weithredwr awdurdod iechyd strategol GIG Lloegr, a'r Athro Phil Routledge yn gadeirydd Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan.
Cafodd yr ymweliadau hyn eu cynnal rhwng 15 Mehefin a 30 Mehefin. Roeddent yn canolbwyntio ar bedwar maes a gafodd sylw yn adroddiad Ymddiried mewn Gofal: rhoi meddyginiaeth i gleifion; sicrhau bod cleifion yn cael digon o ddŵr; y defnydd o dawelyddion gyda'r nos; a gofal ymataliaeth (mynd i'r toiled). Cawsant eu cynnal ym mhob un o’r 20 ysbyty cyffredinol dosbarth, ac ymwelwyd â chyfanswm o 70 o wardiau cleifion mewnol i oedolion, rhwng 6am a hanner nos, yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.
Mae canlyniadau'r ymweliadau dirybudd yn dangos y canlynol:
* At ei gilydd, ni welwyd unrhyw faterion systemig a oedd yn destun pryder o ran hydradu cleifion, eu hanghenion o ran ymataliaeth, nac o ran defnyddio tawelyddion.
* Canfuwyd meysydd unigol lle yr oedd angen gwelliannau, ond roedd y tîm adolygu wedi gweld llawer o enghreifftiau o arferion nodedig hefyd.
* Gwelodd y tîm adolygu bod angen gwella'r ffordd y mae meddyginiaethau'n cael eu rheoli ar wardiau ledled GIG Cymru. Mae a wnelo’r prif faterion a welwyd â chadw meddyginiaethau’n ddiogel ac o dan glo.
Yn ôl yr adroddiad ar yr ymweliadau dirybudd: “Er ein bod yn hyderus bod cynnydd eisoes wedi digwydd, dylid cofio y dewiswyd y pedwar maes pryder hwn o blith ystod ehangach o argymhellion yn Ymddiried mewn Gofal, sydd angen sylw o hyd. Er enghraifft, bydd angen craffu ymhellach ar y defnydd cyffredinol o feddyginiaeth wrthseicotig ar gyfer tawelu cleifion hŷn â dementia.
“Dylai’r GIG yng Nghymru nodi’r arfer da a amlygwyd drwy’r archwiliadau a dylid rhannu’r gwersi gyda darparwyr eraill gofal iechyd i helpu i wella pob lleoliad.
“Rydym yn edrych ymlaen at weld newidiadau’n cael eu rhoi ar waith yng ngofal pobl hŷn, ac rydym yn disgwyl i bob sefydliad gofal iechyd yng Nghymru groesawu’r cyfleoedd dysgu a ddaw yn sgil y broses hon.”
Dywedodd yr Athro Drakeford: “Yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad Ymddiried mewn Gofal, rwy wedi cymryd camau brys i sicrhau bod y cyhoedd a chleifion yn hyderus bod y gofal yn ein hysbytai yn cael ei ddarparu mewn modd diogel a thosturiol i bobl hŷn. Mae'n falch gen i ddweud bod yr archwiliadau dirybudd wedi dangos bod hynny'n wir yn ddiamau.
“Doedd y tîm adolygu ddim wedi gweld unrhyw beth sylweddol a oedd yn destun pryder o ran hydradu cleifion, eu hanghenion o ran ymataliaeth, nac o ran defnyddio tawelyddion, ac roedden nhw'n canmol yr enghreifftiau da o ofal a welon nhw. Ond, roedd rhai meysydd unigol a oedd angen eu gwella, yn arbennig o ran rheoli meddyginiaethau.
“Rydyn ni eisoes yn mynd i'r afael â hynny drwy greu gweithgor i edrych ar y ffordd y mae meddyginiaethau'n cael eu rhoi i gleifion, eu cofnodi, a'u storio. Mewn meysydd eraill, mae mentrau fel cynllun ‘Yfwch Ddiferyn’ yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful, a chynlluniau peilot iWantGreatCare yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Tywysoges Cymru yn dangos ein bod ni'n chwilio am ffyrdd eraill o gael adborth gan gleifion bob amser, ac yn newid pethau pan fydd angen gwneud hynny.
“Byddwn ni'n defnyddio canfyddiadau'r archwiliadau dirybudd i'n helpu ni i barhau i wella gofal pobl hŷn yng Nghymru, a bydd y gwersi yr ydyn ni wedi'u dysgu'n cael eu rhannu ledled GIG Cymru.”