Mwy o Newyddion
Gwladwriaeth annibynnol?
MAE ychydig dros hanner poblogaeth Cymru (53%) yn credu na fydd Cymru byth yn wladwriaeth annibynnol, tra bod ychydig llai na pedwar o bob deg (38%) yn fwy optimistaidd am y tebygolrwydd fydd Cymru yn annibynnol rhyw ddydd.
Holwyd 1,000 o oedolion dros 16 ledled Cymru y cwestiwn ‘Ydych chi’n credu bydd Cymru byth yn wladwriaeth annibynnol?’ yn ystod arolwg Omnibws Cymru diweddaraf Beaufort, a gafwyd ei gynnal yn rhan gyntaf Mawrth.
O’r rhai ddywedodd ‘bydd’, roedd 16% ar y cyfan yn credu byddai nhw’n gweld Cymru annibynnol yn ystod ei bywyd nhw, tra roedd 22% yn credu y bydd yn digwydd, ond ddim yn ei hoes nhw. Heb wir syndod, roedd pobl ieuanc yn rhagweld ei bod yn fwy tebygol o weld newid yn ystod ei hoes nhw, gyda 20% o bobl dan 45 oed yn dweud hyn, o gymharu â 13% o bobl dros 45 mlwydd oed.
Y rhai hynny a oedd fwyaf tebygol o ddweud ei bod yn rhagweld bydd Cymru yn wlad annibynnol oedd siaradwyr Cymraeg (43% yn dweud ‘bydd’ o gymharu gyda 38% ar y cyfan), a merched (40% i gymharu â 35% o ddynion). Y rhai oedd mwyaf tebygol o ddweud ‘na fydd’ Cymru byth yn wlad annibynnol oedd cartrefi sy’n cynnwys ABs (sef uwch reolwyr, pobl proffesiynol neu weinyddwyr – 62% yn dweud ‘na fydd’ o gymharu â 53% ar y cyfan), pobl hŷn (58% o’r rhai dros 65) a dynion (57% o gymharu â 48% o ferched).