Mwy o Newyddion
Cyhoeddi Ymgeisydd y Blaid yn Abertawe
MAE aelodau Plaid Cymru yn etholaeth Gorllewin Abertawe wedi dewis ymgynghorydd busnes a thechnoleg gwybodaeth Harri Roberts yn ddarpar ymgeisydd ar gyfer Etholiad Cyffredinol San Steffan y flwyddyn nesaf.
"Rwyf wrth fy modd i gael fy newis i ymladd y sedd unwaith yn rhagor ac fe garwn ddiolch i aelodau o'r Blaid yn Abertawe am eu cefnogaeth," dywedodd Mr Roberts wrth aelodau mewn cyfarfod yn Abertawe.
"Rwyn awyddus i gynrychioli pobl Gorllewin Abertawe ac ymladd ar y materion sy'n effeithio ar ein bywyd bob dydd.
"Bydd y tymor nesaf o senedd San Steffan yn un hynod bwysig i ddyfodol Cymru gyda chyllid ein gwasanaethau cyhoeddus yn ogystal â datganoli ymhellach yn uchel ar yr agenda. Mae angen llais cryf ar Abertawe yn San Steffan i ymladd er ein buddiannau - nid rhywun dan fawd chwipiaid pleidiau Llundain.
"Heb gyllid teg does dim modd i ni adeiladu ein heconomi, ymladd dros swyddi na gwarchod ein gwasanaethau cyhoeddus megis iechyd ac addysg yn ddigonol.
"Rydw i'n gweithio'n agos gyda'n hymgeisydd Cynulliad, y Dr Dai Lloyd, ac yn awyddus i weld Abertawe'n elwa ar y gwaith caled a'r gynrychiolaeth gadarnhaol y gall aelodau Plaid Cymru eu cynnig.”