Mwy o Newyddion
Dim lle canolog i'r Gymraeg yn y Bil Cynllunio, galw ar i Carwyn Jones ymddiswyddo
Dylai Carwyn Jones ymddiswyddo fel y Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg am fod Bil Cynllunio a gafodd ei gyhoeddi heddiw (Dydd Llun, Hydref 6ed) wedi methu rhoi lle canolog i'r iaith, yn ôl y grŵp pwyso Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Ers cyhoeddi'r Bil drafft, nad oedd yn cynnwys yr un cyfeiriad at y Gymraeg, ym mis Rhagfyr y llynedd, mae'r y Prif Weinidog Carwyn Jones wedi addo mewn dogfen polisi iaith i ystyried 'pob cam ymarferol ar gyfer atgyfnerthu’r Gymraeg o fewn y system gynllunio'
Daeth yr addewid wedi i ganlyniadau'r Cyfrifiad ddangos cwymp yn nifer siaradwyr yr iaith a nifer y cymunedau lle mae'r Gymraeg yn brif iaith i'r gymuned.
Yn siarad o Ferthyr Tudful, meddai Jamie Bevan, Cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Er gwaethaf yr holl gyngor gan Gomisiynydd y Gymraeg ac eraill, mae Carwyn Jones wedi dewis peidio â rhoi lle canolog i'r Gymraeg yn y ddeddfwriaeth
"Mae rhaid i ni ofyn iddo ystyried ei sefyllfa felly: bydd y Gymraeg yn dal ar ei cholled oherwydd ei ddiffyg arweiniad.
"Mae'n drist, ond, gan ystyried ei addewidion - yn enwedig yr addewid clir yn ei ddogfen bolisi ddiweddar 'Bwrw Mlaen' - ymddiswyddo o'i rôl fel y Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg yw'r unig ddewis anrhydeddus sydd ganddo fe.
"Mae gor-ddatblygu a datblygiadau anaddas yn effeithio ar nifer o ardaloedd ledled Cymru - o ddatblygiadau tai diangen i'r M4 newydd.
"Mae rhaid i'r Bil adlewyrchu anghenion unigryw Cymru er mwyn gwella'r amgylchedd, er mwyn cryfhau'r Gymraeg, ac er mwyn taclo lefelau tlodi. Ofer yw dynwared system sy'n bodoli yn Lloegr, gallai e fod yr hoelyn olaf yn arch ein cymunedau Cymraeg fel arall."
Yn ôl Comisiynydd y Gymraeg, dim ond hanner cynghorau sir Cymru sydd wedi cynnwys polisïau iaith Gymraeg yn eu cynlluniau datblygu lleol.