Mwy o Newyddion
Dim Cymraeg yn y Bil Cynllunio? Rhaid i Carwyn Jones ystyried ei sefyllfa
Bydd caredigion yr iaith yn codi cwestiynau am safle Carwyn Jones yng nghabinet Llywodraeth Cymru os nad oes sôn am y Gymraeg ar wyneb y Bil Cynllunio, dyna rybudd Cymdeithas yr Iaith ar drothwy cyhoeddi'r ddeddfwriaeth.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi bod yn galw am nifer o newidiadau ers i Weinidogion yng Nghaerdydd gyhoeddi'r ddeddfwriaeth ddrafft ym mis Chwefror eleni, nad oedd yn cynnwys yr un gair am y Gymraeg.
Ers hynny, mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi addo ystyried 'pob cam ymarferol ar gyfer atgyfnerthu’r Gymraeg o fewn y system gynllunio'. Daw'r ddadl wedi i ganlyniadau'r Cyfrifiad ddangos cwymp yn nifer siaradwyr yr iaith a nifer y cymunedau lle mai'r Gymraeg yw prif iaith y gymuned; mae ymgyrchwyr yn dweud mai'r drefn gynllunio sy'n rhannol gyfrifol am y dirywiad.
Yn siarad o Ferthyr Tudful, meddai Jamie Bevan, Cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Byddwn ni'n codi cwestiynau am Carwyn Jones os nad oes sôn am y Gymraeg yn y Bil, bydd rhaid i ni ofyn iddo ystyried ei sefyllfa.
"Byddai'n rhyfedd pe bai'n wir, o ystyried ei addewidion, yn enwedig yr addewid clir yn ei ddogfen bolisi ddiweddar 'Bwrw Mlaen'. Os yw e'n torri ei addewid ac yn anwybyddu cyngor Comisiynydd y Gymraeg, ymddiswyddo fydd yr unig ddewis anrhydeddus sydd ganddo fe."
Cynhaliwyd rali flynyddol Cymdeithas yr Iaith dros y penwythnos ar thema'r drefn gynllunio. Ymysg y newidiadau mae'r mudiad wedi bod yn galw amdanyn nhw i gynlluniau drafft y Llywodraeth, mae gwneud effaith ar yr iaith yn rheswm statudol dros wrthod neu ganiatáu datblygiadau, a gosod anghenion lleol fel sail i'r system gynllunio yn hytrach na thargedau tai wedi eu gosod o Gaerdydd.
Ychwanegodd Jamie Bevan: "Mae angen i'r Bil ddileu'r targedau tai cenedlaethol, ac, yn lle hynny, seilio'r system ar anghenion lleol, yn ogystal ag asesu effaith datblygiadau ar y Gymraeg a rhoi'r hawl i gynghorwyr ganiatáu neu wrthod ceisiadau ar sail eu heffaith iaith.
"Mae llawer o bobl yn pryderu am or-ddatblygu a datblygiadau anaddas mewn nifer o ardaloedd ledled Cymru - o ddatblygiadau tai diangen i'r M4 newydd - ac effaith hynny ar yr amgylchedd, ar y Gymraeg, ac ar lefelau tlodi.
"Mae gan Lywodraeth Cymru gyfle i baratoi deddfwriaeth i sicrhau datblygiadau cynaliadwy - a chaniatáu’r math iawn o ddatblygiadau lle mae eu gwir angen ar gymunedau.
"Yn anffodus, cyhoeddodd y Llywodraeth ddeddfwriaeth ddrafft, a fyddai, yn hytrach na thaclo'r problemau, yn eu dwysáu, gan olygu bod penderfyniadau cynllunio'n symud ymhellach o afael y bobl, ac yn digwydd mewn modd llai democrataidd."
Llun: Jamie Bevan