Mwy o Newyddion
Plaid Cymru yn galw am agwedd “Cymru gyfan” at yr M4
Mae Plaid Cymru wedi gwneud yr achos dros agwedd “Cymru gyfan” at wella cysylltiadau trafnidiaeth o gwmpas Casnewydd.
Yn y ddadl gyntaf a gynhaliwyd ar y pwnc ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r penderfyniad i fwrw ymlaen â’r dewis £1 biliwn ar ddiwrnod olaf tymor yr haf, gwnaeth Plaid Cymru yr achos dros ddewisiadau rhatach y gellid eu cyflawni yn gynt, fyddai’n rhoi’r un canlyniadau o ran lliniaru tagfeydd, ac a fyddai’n rhyddhau arian i fuddsoddi mewn prosiectau trafnidiaeth eraill ar hyd Cymru gyfan.
Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru wrth Blaid Cymru bythefnos yn ôl, er eu bod wedi mabwysiadu’r “Llwybr Du” fel y’i gelwir, y byddai penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan y Llywodraeth nesaf wedi etholiadau’r Cynulliad, astudiaeth effaith amgylcheddol, ac o bosib ymchwiliad cyhoeddus. Mae grwpiau amgylcheddol hefyd wedi cyflwyno her gyfreithiol trwy adolygiad barnwrol yn erbyn dewis lwybr y Llywodraeth, y “Llwybr Du”, gan ddadlau bod y penderfyniad wedi ei wneud yn anghyfreithlon.
Dywedodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Menter a Thrafnidiaeth, Rhun ap Iorwerth: “Mae tagfeydd ar yr M4 o gwmpas Casnewydd yn broblem sydd angen ei datrys, ac y mae Plaid Cymru eisiau gweld ei datrys mewn modd sy’n fforddiadwy, yn gynaliadwy ac sy’n rhoi gwerth am arian.
“Bydd y dewis biliwn-o-bunnoedd yr aeth Llywodraeth Cymru amdano yn costio mwy na dwbl y pris angenrheidiol, a fydd dim modd ei gwblhau yn fuan nac yn bendant am ei fod mor ddadleuol.
“Amcangyfrifwyd yn wreiddiol y byddai dewis lwybr Plaid Cymru yn costio £380 miliwn, fyddai wedi rhyddhau dros £600 miliwn i fuddsoddi mewn trafnidiaeth ym mhob cwr o Gymru.
“Yn y gyllideb ddoe, bu Llywodraeth Cymru yn uchel eu cloch am eu haddewid i wario £10 miliwn ar brosiectau trafnidiaeth nas enwyd yng ngogledd Cymru. Byddai cynlluniau Plaid Cymru yn rhyddhau cannoedd o filiynau o bunnoedd y gallesid bod wedi eu buddsoddi mewn prosiectau ar hyd a lled Cymru.
“Mae angen i ni barhau i graffu ar y Llywodraeth ynghylch y “Llwybr Du” oherwydd, er i mi gael cadarnhad bythefnos yn ôl mai yn nhymor nesaf y Cynulliad yn unig y byddai’n bwrw ymlaen, dyma ddewis y llywodraeth Lafur o hyd.”