Mwy o Newyddion
Dull newydd o ddiogelu eogiaid gwyllt
Fe gytunwyd ar newidiadau mawr yn y ffordd mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gweithio i amddiffyn eogiaid gwyllt.
Mae adolygiad cynhwysfawr o ymchwil gwyddonol wedi canfod fod cyfraddau goroesi eogiaid ifanc a fagwyd mewn deorfa yn is na chyfraddau goroesi pysgod gwyllt o’r un oed, ac yn gallu achosi niwed i lefel poblogaeth eogiaid gwyllt.
Bellach mae CNC yn bwriadu rhoi’r gorau’n raddol i’r gweithgaredd o stocio eogiaid erbyn 2015 a chau ei deorfeydd ym Mawddach, ger Dolgellau a Maerdy ger Corwen.
Cafodd y cynnig ei gadarnhau heddiw ddoe gan fwrdd CNC.
Bydd deorfa Cynrig, ger Aberhonddu, yn aros ar agor a fydd CNC yn asesu’r posibilrwydd o ddatblygu canolfan ymchwil dŵr croyw ar y safle.
Dywedodd Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gwybodaeth, Strategaeth a Chynllunio, Cyfoeth Naturiol Cymru: “Rydym yn frwdfrydig am wneud yn siŵr bod gan Gymru boblogaeth o eogiaid iach a chynaliadwy. Er mwyn gwneud hynny, mae angen i ni ddefnyddio ein hadnoddau mor effeithiol â phosibl.
“Rydym wedi gwneud llawer dros y blynyddoedd i wella ansawdd dŵr ac, ynghyd â’n partneriaid, i wella cynefinoedd a datrys rhwystrau i fudo. Credwn fod y manteision hyn yn dechrau cael effaith, a bydd hyn yn gwella cyflwr dŵr croyw ar gyfer eogiaid a physgod eraill.
“Mae ein hafonydd yn rhan bwysig o’n hamgylchedd. Maent yn darparu cynefinoedd hanfodol ar gyfer pysgod a bywyd gwyllt arall yn ogystal â rhoi cyfleoedd i bobl i fwynhau’r awyr agored drwy bysgota a gwneud gweithgareddau dŵr arall.”
Edrychodd CNC ar ystod eang o dystiolaeth wyddonol o’r DU a thramor a oedd yn awgrymu fod yna ffyrdd mwy effeithiol o edrych ar ôl eogiaid yn afonydd Cymru. Ni chafwyd unrhyw dystiolaeth i’r gwrthwyneb wedi ymgynghoriad cyhoeddus.
Fe ddiflannodd yr eog o’r Afon Taf yn ystod y Chwyldro Diwydiannol. Mae stocio wedi chwarae rhan yn ei adferiad, ynghyd â rhai afonydd a effeithiwyd yn flaenorol gan ddiwydiant
Mae astudiaeth bellach wedi datgelu fod, stocio wedi rhoi’r hwb cychwynnol i adfer y boblogaeth, a byddai mwy o eogiaid yn cael eu cynhyrchu pe buasai’r pysgod yn cael eu gadael yn yr afon i silio yn hytrach nag cael eu symud a'u magu mewn deorfa.
Bydd arian a godwyd o werthu’r deorfeydd yn cael eu defnyddio i wella’r pysgodfeydd yn yr afonydd sydd wedi’u cael eu stocio’n flaenorol, gan gynnwys gwaith i wella’r cynefinoedd neu agor llwybrau mudol newydd.
A bydd CNC yn gweithio gyda sefydliadau sy’n bartneriaid i roi’r rhaglenni gwelliannau ar waith.
Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf mae CNC, Llywodraeth Cymru a’r Rhaglen Pysgodfeydd Cynaliadwy a ariannwyd gan yr UE mewn partneriaeth a’r Ymddiriedolaeth Afonydd wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd i wella cyflenwadau pysgod.
Mae hyn yn cynnwys agor dros 1,500km o fynediad i fannau claddu wyau drwy adeiladu llwybrau pysgod a gwella dros 500km o gynefin drwy, er enghraifft, adeiladu ffensys i gadw anifeiliaid oddi wrth lannau afonydd ac i atal trosglwyddiad gwaddodion i’r afonydd.
Mae’r penderfyniad wedi ennill cefnogaeth Dr Stephen Marsh-Smith OBE, Cyfarwyddwr Sefydliad Gwy ac Wysg, a ddywedodd:
“Mae CNC wedi bod yn ddewr iawn gyda’r cynlluniau hyn, gan herio crediniaeth sydd wedi hen ymsefydlu.
“Er y gellid dadlau o ystyried cryn dipyn o dystiolaeth wyddonol fod hi’n hen bryd rhoi’r gorau i stocio, yn y gorffennol, roedd newidiadau i unrhyw reolaeth pysgodfeydd neu is-ddeddf mae’n siŵr yn cael eu cymedroli i geisio bod wrth fodd leiafrif o feirniaid uchel eu cloch.
“Y tro hwn mae’r sefydliad newydd wedi mynd gyda’r dystiolaeth a chyflawni’r egwyddorion cynaliadwy sydd wedi’i ymgorffori yn ei enw.”
Ychwanegodd Ceri: “Rydym yn cydnabod y bydd rhywfaint o drafodaeth ynghylch y penderfyniad, ond mae tystiolaeth wyddonol yn dangos mai dyma’r camau gorau i’w cymryd i sicrhau dyfodol eogiaid gwyllt yng Nghymru.
“Mae gennym gyfle i feddwl yn greadigol am y ffordd orau o gynnal cyflenwadau pysgod fel gall ein hafonydd parhau i gyflwyno manteision i fywyd gwyllt, pobl ac economi Cymru.
“Mi rydym ni wedi cytuno cynllun gweithredol cadarn i wneud hyn ac mi fyddwn yn adrodd yn ol gydag ein cynydd.”