Mwy o Newyddion
Cam yn y cyfeiriad iawn i gyn-filwyr Cymru
Mae menter arloesol, sydd â'r nod o gynnig arweiniad a chefnogaeth i gyn-filwyr ac eraill sydd ag anhwylder straen wedi trawma a phroblemau seico-gymdeithasol eraill, nawr ar gael ar draws Cymru am y tro cyntaf.
Mae Change Step yn cynnig gwasanaeth mentora a chynghori gan gyn-filwyr i gyn-filwyr eraill sydd am wneud newidiadau cadarnhaol yn eu bywydau. Nod y gwasanaeth yw cefnogi'r rhai sy'n edrych am gymorth ar gyfer problemau a gafwyd o ganlyniad i ddyletswydd milwrol drwy gynnig cyfleoedd hyfforddi a chyfeirio at wasanaethau iechyd a lles perthnasol. Mae enghreifftiau o bynciau seico-gymdeithasol yn cynnwys diweithdra, bod yn ddigartref, problemau iechyd meddwl a phroblemau camddefnyddio cyffuriau.
Sefydliwyd Change Step yn Llandudno yn 2012 gan CAIS, yr elusen cyffuriau ac alcohol yn g Ngogledd Cymru. I gydnabod llwyddiant y rhaglen mae Cais wedi cael grant o £1 filiwn drwy gronfa Cyfamod Lluoedd Arfog LIBOR Llywodraeth y DU i greu gwasanaeth Change Step i Gymru gyfan. Bydd y gwasanaeth cenedlaethol yn cael ei ddarparu gan aelodau o'r consortiwm 'Elusennau Cyffuriau ac Alcohol Cymru’.
"Mae hwn yn ddiwrnod arloesol i Change Step a chyn-filwyr ledled Cymru," dywedodd Clive Wolfendale, prif weithredwr CAIS . "Mewn ychydig dros 5 mis mae Change Step wedi derbyn dros 300 o atgyfeiriadau o bob cwr o Gymru ac wrth i ymwybyddiaeth o'r prosiect ledu rydym yn rhagweld y bydd y niferoedd hyn yn cynyddu yn raddol. “Mae’r cyn-filwyr sy'n defnyddio'r gwasanaeth wedi rhoi cymaint dros eu gwlad, ond yn eithaf aml wedyn yn datgysylltu oddi wrth gymdeithas. Mae angen i ni helpu ac estyn allan i gyn-filwyr i'w helpu i integreiddio nol i'w gwasanaethau cymunedol a phrif ffrwd."
"Mae cynnig cefnogaeth gan cyn-filwr I gyn-filwyr yn gweithio'n dda iawn diolch i brofiadau a dealltwriaeth o'r hyn mae’r naill a'r llall wedi rhannu. Yn ogystal â chynnig cefnogaeth cyfoedion, bydd y tîm Change Step yn cyfeirio cyn-filwyr at wasanaethau eraill megis cynghori, cyflogaeth a gwasanaethau cyffuriau ac alcohol."
Mae Change Step ar gael i gyn-filwyr , cyn- aelodau o'r gwasanaethau brys, goroeswyr trawma a'u teuluoedd, ac fe fydd ei mentoriaid yn gweithio ochr yn ochr â CAIS yn y gogledd, Kaleidoscope ym Mhowys a Gwent, TEDS yn Rhondda Cynon Taf, WCADA yng Nghastell-nedd, Port Talbot, Abertawe a Phenybont ar Ogwr, Cyswllt Contact yng Ngorllewin Cymru a Drugaid ym Merthyr Tudful, Pontypridd a Chaerffili
Mae gwasanaeth cyflenwol 'Listen In' wedi cael ei sefydlu i gefnogi teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr cyn-filwyr sy'n cael anawsterau .
Gallwch gysylltu â'r tîm Change Step drwy ffonio 0300 777 2259 neu e-bostiwch ask@change - step.co.uk.