Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Hydref 2014

Hwb i hosbis plant wrth i’r canwr a’r cyflwynydd Aled Jones agor estyniad £4.5 miliwn i siop

Diolch i Aled Jones bydd hosbis yn Nyffryn Conwy sy’n gofalu am blant sy’n ddifrifol wael yn cael hwb ariannol.

Mae’r canwr a’r cyflwynydd yn un o noddwyr hosbis plant Tŷ Gobaith, ac fe drefnodd i dîm o bobl ar ran yr elusen fod yno’n casglu arian pan oedd yn agor estyniad newydd £4.5 miliwn i siop Tweedmill.

Mae Aled yn seren sydd wedi gwerthu miliynau o gryno ddisgiau o’i ganeuon. A bu’n perfformio detholiad o’r caneuon hynny i dorf fawr yn Tweedmill ger Llanelwy. Cafodd gymeradwyaeth arbennig gan y dorf wrth iddo ganu nifer o hen ffefrynnau yn cynnwys “Ar Lan y Môr”, “Morning Has Broken”, “Bugeilo’r Gwenith Gwyn”, “ Amazing Grace” - a phwt bach o’r gân a’i gwnaeth yn enwog “Walking in the Air”.

Meddai Aled “Mae’n braf bod yn ôl yma yng Nghymru yn canu llawer o’m hoff ganeuon. Mi fyddaf yn canu rhai ohonyn nhw'r mis nesaf ar daith. Fel arfer ar lwyfannau  yn enwedig  llwyfannau neuaddau cyngerdd mawr y bydda i’n canu. Mae perfformio mewn canolfan siopa fel hyn  ychydig yn wahanol ac yn anarferol. Ond mae nhw’n hoff iawn o ganeuon da yn y rhan yma o Gymru rwy’n siŵr.”

Enillodd  Aled, a anwyd ym Mangor,  enw iddo’i hun wrth ganu'r arwyddgan i "The Snowman". Ar hyn o bryd mae’n gyd-gyflwynydd rhaglen deledu "Songs of Praise" ar y BBC,  yn cyflwyno rhaglen radio ar "Classic FM",  rhaglen sgwrsio ar "Radio Wales" a’i sioe deledu ei hun ar ITV1, "Weekend".

Roedd Aled yn y siop brysur wrth iddi ddathlu bod yn agored am 20 mlynedd drwy agor estyniad newydd iddi. Mae hyn wedi creu 50 o swyddi newydd. Ar ôl dadorchuddio cofeb  cyfarfu a rhai o’i gefnogwyr gan lofnodi copïau o’i lyfr cyn eistedd a chael paned gyda’r perchnogion a chefnogwyr a chrwydro wedyn o gwmpas y siop sydd bellach yn 50,000 troedfedd sgwâr.

Mae Tweedmill yn cyflogi 140 o bobl. Ac yn flynyddol daw yno dros 650,000  i siopa. Mae hyn yn ei gwneud yn un o’r mannau masnachol sy’n denu’r mwyaf o bobl yn y Gogledd. Mae’r perchenogion bellach yn gobeithio denu hyd yn oed fwy yno, boed i edrych ar y nwyddau, cael paned o goffi neu ymweld â’r siop fferm newydd, dywedodd cyfarwyddwr y Siop Lisa John.

“Mae hyn yn fuddsoddiad mawr gan y cwmni yn y busnes ac mi rydan ni eisiau nodi bod yr estyniad wedi’i agor ar ben-blwydd y siop yn 20 oed a hynny drwy wahodd un o enwogion mwyaf y Gogledd i’w agor,” meddai Lisa.

“Roedd hi’n wych clywed Aled yn canu ei hoff ganeuon, ac roedd yn hyfryd ei glywed yn sgwrsio gyda’r gwahoddedigion wrth gael paned o de a theisennau. Rydw i’n falch iawn ei fod wedi medru dod yma.

“Rydym yn teimlo ein bod ni’n rhan o’r gymuned yma yn y Gogledd. Ni yw un o gyflogwyr mwyaf yr ardal, ac rydym eisiau medru dangos y gorau sydd gan Gymru i’w gynnig. Ein nod ydyw bod yr holl gynnyrch yn y Siop Fferm un ai i fod yn dod o Gymru  neu’n cael ei gyflenwi gan gwmnïau sy’n lleol i ni.

“Rydym yn denu miloedd yma i siopa ar draws ardal eang bob wythnos yn ogystal â grwpiau o fannau pellach a’n bwriad yw adeiladu ar y llwyddiant hwnnw gyda’r estyniad newydd.”

Mae’r Siop Fferm yn rhan o’r estyniad yn ogystal â rhywle ar gyfer dilladau gwahanol, caffi newydd mwy a mynedfeydd newydd, canolfan ofal cyfrifiaduron, salon gwallt ewinedd a phrydferthwch, man ar gyfer therapi ymlacio ac anafiadau chwaraeon, dodrefn Elcon, asiantaeth deithio a man ar gyfer trwsio ac addasu dillad.

Daeth Aled i’r seremoni o ganol cyfnod o ymarfer yn y West End  gyda’r canwr Michael Buble ar gyfer cyngerdd codi arian i “Help for Heroes”, lle bydd yn perfformio caneuon o sioe gerdd glasurol Irving Berlin “White Christmas”.  Roedd Aled yn cyfaddef ei fod “wedi cyffio” ar ôl bod wrthi’n ymarfer dawnsio ar gyfer y sioe - sioe y mae wedi’i gwneud o’r blaen. Ym mis Tachwedd bydd y sioe yn agor yn Theatr Dominion yn y West End. Hefyd yn cyd berfformiogydag ef bydd enillydd “Strictly Come Dancing”, Tom Chambers.

Mae Aled hefyd ar fin cychwyn taith o'r enw “Songs of Hope and Inspiration”. Bydd yn cychwyn yn ninas Coventry ac yna’n mynd yn ei flaen i nifer o fannau gwahanol yn cynnwys Amwythig, Llandudno, Aberystwyth ac Abertawe yn ogystal â hyrwyddo ei albwm newydd “The Heart of it All”, sy’n cael ei ryddhau ar Dachwedd 3. Dros y Nadolig bydd yn cyflwyno rhifynau Nadoligaidd o’r “Weekend Show” ar ITV1.

“Doeddwn i erioed wedi bod yn Tweedmill o’r blaen” meddai Aled. “Er fy mod i wedi gweld yr arwyddion yn cyfeirio at y fan wrth fynd ar yr A55 yn ôl i dŷ fy mam a’n nhad yn Sir Fôn ac wedi meddwl tybed sut le oedd o.”

“Mae’n syndod gweld siop mor fawr yma ac wrth gerdded o gwmpas ac edrych mae’n hawdd gweld pam fod y siop yn un mor brysur.”

“Roedd hi hefyd yn fraint cyfarfod cymaint o gefnogwyr dros baned o de. Dros y blynyddoedd mae cefnogaeth pobl y Gogledd wedi bod yn bwysig tu hwnt i mi  o’r amser pan oeddwn i’n canu yn y côr yng Nghadeirlan Bangor.

“Y tro diwethaf i mi fod yn Llanelwy roeddwn yn cyflwyno rhifyn Gŵyl Ddewi arbennig o Songs of Praise i’r BBC o’r eglwys gadeiriol. Roedd sain arbennig iawn i’r eglwys ac mi hoffwn gael y cyfle i berfformio yno fy hun ryw dro - ond ar hyn o bryd mae fy nyddiadur yn eithaf llawn am ryw flwyddyn neu fwy!”

Mae Aled yn noddwr hosbisau plant Hope House a Tŷ Gobaith, y naill ym  Morda ger Croesoswallt a’r llall yn  Nhy’n y Groes, Conwy, ac roedd yn annog ei gefnogwyr a’r rhai sy’n ymweld â’r siop i gyfrannu tuag at yr elusen sy’n cefnogi plant sy’n ddifrifol wael a’u teuluoedd.

Yn y dorf yn cymryd cyfraniadau at yr achos yr oedd Sarah Kearsley-Wooller  rheolwraig codi arian yr hosbis.

Meddai: “Roeddem wrth ein boddau pan ofynnodd Aled a allem ni fod yma’n hel cyfraniadau heddiw yn Tweedmill, ac roedd Russell Booth, perchennog y siop yn gefnogol tu hwnt.

“Roedd yn bleser pellach cael gweld Aled yn perfformio. Mae o mor gefnogol i’n gwaith ni yn yr hosbis a phob tro yn barod iawn i’n helpu pan mae o’n gallu. Aled ydi’n seren ni.”

Rhannu |