Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Hydref 2014

Galw ar ferched i arwain

Cyhoeddodd Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Y Cynghorydd Dyfed Edwards y bydd yn galw ar ferched i ymgeisio am swyddi yng nghabinet Cyngor Gwynedd yn ystod tymor yr Hydref. Daw ei gyhoeddiad ychydig wythnosau cyn iddo ail edrych ar gabinet Cyngor Gwynedd.

“Mae’n flaenoriaeth gennym fel Plaid i sicrhau bod merched yn cael llais teg ar Gyngor Gwynedd. Trafodwyd hyn yn fanwl mewn cyfarfod grŵp diweddar, ac roedd y farn yn unfrydol bod angen i ni sicrhau ein bod yn cynnig llwybr clir i ferched ymgeisio am swyddi arweinyddol o fewn Plaid Cymru.

“Bydd cyfle yn yr hydref i ni edrych ar aelodau cabinet Cyngor Gwynedd wrth i rai gamu lawr, felly mae’n amserol ein bod yn cyhoeddi ac yn rhoi neges gwbl glir bod galwad ar ferched i fod yn rhan o’r gwaith o arwain polisïau a gweithdrefnau o fewn y Cyngor,” meddai’r Cynghorydd Edwards.

Fis Medi, bydd aelod arall o Blaid Cymru yn ymuno â’r tîm sy’n rheoli Cyngor Gwynedd. Bydd Y Cynghorydd o Ddolgellau, Dyfrig Siencyn yn cymryd rôl Ddirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd, yn dilyn ymddiswyddiad y Cynghorydd Siân Gwenllian o’r gwaith yn gynharach yn y flwyddyn, wrth iddi sefyll fel cynrychiolydd Arfon Plaid Cymru yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016.

Mae’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn gynghorydd profiadol, sy’n aelod o Gyngor Gwynedd dros Ogledd Dolgellau, a Chyngor Tref Dolgellau. Bu’n Gadeirydd Pwyllgor Craffu Gwasanaethau sy’n ymchwilio i faterion ym meysydd Addysg a Gwasanaethau Gofal.

Dros y ddeugain mlynedd ddiwethaf, mae’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn wedi gweithio fel arwerthwr a phrisiwr gwledig ac ef yw prif weithredwr i Farmers Marts R G Jones Cyf yn Nolgellau.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards: "Dwi’n hynod falch o allu croesawu’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn i ymuno â’r tîm ym mis Medi. Mae’n gynghorydd profiadol sydd wedi gweithio yn y sector breifat ers nifer o flynyddoedd. Bydd ei brofiad rheolaethol, ei ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth leol a’i ymroddiad i Wynedd a'i gwerthoedd unigryw yn gaffaeliad mawr i’r tîm. Mae’n unigolyn brwdfrydig ac yn gymeriad di-flewyn ar dafod, a dwi’n edrych mlaen yn fawr at gydweithio ag ef.”

Yn ôl Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Dwi wedi cael blynyddoedd o bleser yn cydweithio ag amaethwyr Sir Feirionnydd a’r cyffiniau ac yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth a ges i yn eu mysg. Nawr dwi’n awyddus i wynebu her newydd ac yn edrych ymlaen at ymuno â thîm arweinyddol y Blaid yng Ngwynedd wrth i ni wynebu’r cyfnod nesaf yn hanes llywodraeth leol.”

Rhannu |