Mwy o Newyddion
Gwaith deuoli’r A465 rhwng Gilwern a Brynmawr yn cael ei gymeradwyo
Mae’r Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart, wedi cymeradwyo'r gwaith o ddeuoli’r A465 rhwng Gilwern a Brynmawr.
Mae’r Gweinidog wedi ystyried adroddiad yr arolygydd cynllunio ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Ebrill 2014 ac wedi penderfynu gall y Gorchmynion Drafft gael eu gwneud. Os nad oes unrhyw her gyfreithiol bydd y gwaith yn dechrau tua diwedd y flwyddyn, ac mae disgwyl y bydd wedi’i gwblhau yn 2018.
Dywedodd Mrs Hart: “Mae’r A465 yn rhan o’r Rhwydwaith Ffyrdd Traws-Ewropeaidd ac yn gefnffordd bwysig yn y de. Bydd y cynllun deuoli hwn yn cyflymu teithiau ac yn gwella diogelwch ar hyd y rhan hon, gan helpu i adfywio ardal Blaenau’r Cymoedd drwy ddarparu gwell cysylltiadau trafnidiaeth gyda’r dwyrain.”
Y darn 8.1km o’r ffordd fydd y bedwaredd ran o brosiect deuoli ffordd A465 Blaenau’r Cymoedd i gael ei chwblhau.
Mae’r cynigion yn golygu lledu’r A465 presennol sy’n pasio drwy Gwm Clydach, ochr yn ochr ag Afon Clydach, a nifer o gymunedau o bobtu’r ffordd. Bydd yn cysylltu â Rhan 1 (Y Fenni i Gilwern) a gwblhawyd yn 2008 a Rhan 3 (Brynmawr i Dredegar) sydd i’w chwblhau yn 2015 i ffurfio un ffordd ddeuol sy’n ymestyn o’r Fenni i Ferthyr.