Mwy o Newyddion
Plaid Cymru yn annog ymateb dan arweiniad rhanbarthol i argyfwng Irac
Mae Plaid Cymru wedi annog ymateb dan arweiniad rhanbarthol i’r argyfwng yn Irac, gan gadarnhau na fydd ei ASau yn cefnogi bwriad llywodraeth y DU i lansio cyrchoedd awyr yn erbyn ISIL.
Wrth amlinellu’r rhesymau y tu ôl i fwriad ei blaid i bleidleisio yn erbyn cynnig y llywodraeth yn Senedd San Steffan heddiw, dywedodd Hywel Williams AS Plaid Cymru: “Mae’r dioddefaint dynol yn Irac a Syria wedi arwain at awydd cryf i “wneud rhywbeth.” Serch hyn, nid yw Plaid Cymru yn credu y bydd gweithredu milwrol gan y DU yn sicrhau datrysiad llawn a pharhaol. Dim ond ymateb rhanbarthol wedi’w gefnogi gan gymorth rhynglwadol dan arweiniad y Cenhedloedd Unedig wnaiff hynny.
“Llynedd, roedd llywodraeth y DU yn awgrymu gweithredu milwrol yn erbyn llywodraeth Syria. Un o’r grwpiau fyddai wedi elwa o hynny yw ISIL.
“Credwn y bydd cyrchoedd awyr bron yn sicr yn arwain at farwolaethau dinasyddion diniwed – fel ym mhob achos arall o ymyrraeth filwrol gan y Gorllewin yn y rhanbarth ac Affganistan – a radicaleiddio’r ifanc a’r rhai sydd wedi eu dadrithio.
“Mae’n peri pryder fod y Prif Weinidog wedi dweud na ddylem adael i “gamgymeriadau’r gorffennol” fod yn egus dros beidio gweithredu. Mae’r rhyfel diwethaf yn Irac yn taflu cysgod trwm o hyd – does bosib y dylem fod yn dysgu o hanes, nid anghofio amdano.
“Mae Plaid Cymru’n cefnogi darparu llywodraethau Irac a’r Cwrdiaid gyda chymorth dyngarol, technolegol a materol, pan fo bywydau dinasyddion mewn pergyl uniongyrchol. Byddai hyn yn eu galluogi i warchod eu poblogaeth a sicrhau datrysiad parhaol.
“Dylai ymateb y DU i’r argyfwng hwn ganolbwyntio ar ymdrechion dyngarol a diplomyddol. Dylem ganolbwyntio ar ddarparu cymorth, dod a grymoedd cymhedrol y rhanbarth at ei gilydd, a chynnig derbyn rhai o’r nifer cynyddol o ffoaduriaid sy’n cael eu gorfodi o’u cartrefi bob dydd.”