Mwy o Newyddion
Hyrwyddo Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn yr Iseldiroedd
Mae gobeithion uchel y bydd allforion Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru i'r Iseldiroedd yn cynyddu'n sylweddol yn dilyn penodi arbenigwr marchnata yn y wlad.
Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi penodi Andre Adolfs i fod yn gynrychiolydd iddo yn yr Iseldiroedd. Bydd yn dechrau ar ei waith ym mis Hydref.
Bydd yn ymuno â nifer o asiantau sy'n hyrwyddo Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru ar ran HCC mewn nifer o wledydd – gan gynnwys Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Gwlad Belg a Sgandinafia.
Mae gan Mr Adolfs, sy'n 43 oed ac yn berchennog a rheolwr gyfarwyddwr AA Foods, dros ugain mlynedd o brofiad yn y diwydiant bwyd.
Bu'n rheolwr gwerthu yn Vion (cig), rheolwr gwerthu cenedlaethol Ewropeaidd i gwmni Sara Lee ar gyfer cig wedi'i brosesu, cyfarwyddwr gwerthu yn Unilever Food Solutions a rheolwr sianel yn Uniq CCC (Johma NL).
Dywedodd Laura Pickup, Rheolwraig Datblygu'r Farchnad yn HCC: “Rwyf wrth fy modd yn croesawu Andre i dîm HCC. Mae ganddo brofiad eang a fydd, rwy'n siŵr, yn golygu y bydd mwy o lawer o Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn cael eu gwerthu yn yr Iseldiroedd.
“Er ein bod eisoes yn allforio gwerth £14.3 miliwn o Gig Eidion Cymru a gwerth £4.5 miliwn o Gig Oen Cymru i'r Iseldiroedd, mae ein hymchwil yn dangos fod lle o hyd i wella.
“Mae cyfle i ddatblygu'r marchnadoedd hyn fwyfwy yn newyddion da i gynhyrchwyr Cymru, proseswyr Cymru ac economi Cymru yn gyffredinol," meddai Mrs Pickup. “Mae mwy o alw am ein cynnyrch nodedig yn golygu gwell prisiau i'r cynhyrchwr a'r allforiwr, ac mae'n diogelu swyddi yma yng Nghymru.”