Mwy o Newyddion
Ysgol newydd yn datblygu'n dda
Mae ysgol gynradd fwyaf newydd Abertawe ynghyd â gwelliannau i Barc Cwmbwrla'n datblygu'n dda.
Dros yr haf, mae'r strwythur dur ar gyfer Ysgol Gynradd newydd Burlais, gwerth £8.25m, wedi datblygu o adran isaf Parc Cwmbwrla gan roi rhagflas o'r ysgol nodedig sydd yn yr arfaeth.
Bellach mae concrid yn cael ei dywallt i greu'r llawr gwaelod a'r lloriau cyntaf ar gyfer y prosiect a fydd yn disodli hen adeiladau o oes Victoria gyda champws sy'n addas ar gyfer addysg gynradd yr 21ain ganrif.
Bydd adeiladu'r cyfleusterau newid ar gyfer pêl-droed yn gwella gweddill cyfleusterau'r parc o ganlyniad i gynllun yr ysgol. Mae'r gwaith hwn hefyd ar y gweill gyda'r gwaith ar y sylfeini a'r gwaith draenio wedi'i gwblhau.
Daw llawer o'r bobl hynny sydd ar y safle, er mwyn gwireddu breuddwyd i'r gymuned leol, o Abertawe neu mae ganddynt gysylltiadau ag Abertawe, sy'n helpu i ledaenu manteision y cynllun ymhellach fyth.
Daw Alun Phillips o Abertawe ac mae wedi bod yn ddi-waith am ddeufis. Diolch i dîm y Tu Hwnt i Frics a Morter Cyngor Abertawe sydd wedi bod yn gweithio gyda'r contractwyr, Dawnus, mae hyn wedi rhoi gyrfa newydd iddo. Mae'r contractwr wedi cofrestru i ddarparu manteision cyflogaeth leol fel rhan o'i gontract gyda'r Awdurdod. .
Ymunodd Alun â'r prosiect ym mis Mehefin yn gweithio fel Gweithredwr Peiriannau yn defnyddio Cloddwyr Deg 360. Mae Dawnus yn bwriadu parhau â'i gyflogaeth gyda'r cwmni ar ôl i'r prosiect hwn ddod i ben.
Meddai Jennifer Raynor, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg, "Mae'r cynnydd ar yr ysgol hon bellach ar gael i bawb ei weld.
"Rwy'n siŵr bod y disgyblion ar bigau'r drain yn aros ar gyfer mis Medi 2015 lle bydd ganddynt mannau dysgu ysbrydoledig lle gallant gyflawni eu potensial llawn yn ogystal â chael mannau dysgu awyr agored, sy'n angenrheidiol ar gyfer y meithrin a'r cyfnod sylfaen.
"Mae pawb yn gwybod bod cyswllt uniongyrchol rhwng mannau dysgu modern a chyrhaeddiad, felly mae'r adeiladau newydd hyn yn mynd i fod yn hwb enfawr i Burlais lle mae'r staff wedi gweithio'n galed i helpu disgyblion i gyflawni mewn cyfleusterau sydd wedi dyddio.
"Mae Ysgol Gynradd Burlais yn enghraifft dda lle rydym yn darparu cyfleusterau ar gyfer yr 21ain ganrif ar gyfer addysg, gwella darpariaeth parciau cymunedol ac yn defnyddio contractwyr blaengar i wella cyflogaeth a hyfforddiant lleol.
Meddai Hadley Hands, Rheolwr Prosiect Dawnus Construction Holdings Cyf, "Mae'r gwaith yn datblygu'n dda ac rydym yn falch ein bod wedi gwneud hyn gyda help llafur lleol i'r graddau y byddwn yn rhagori ar ein hymrwymiad gwreiddiol ar gyflwyno'r manteision hynny.
"Mae'r safle hefyd wedi cael ei archwiliad cyntaf dan y Cynllun Adeiladwyr Ystyriol. Rydym yn cael ein marcio ar ofal am ymddangosiad, parchu'r gymuned, diogelu'r amgylchedd, sicrhau diogelwch pawb, a gwerth y gweithlu. Sgoriodd y safle 39 o 50 sy'n safon dda iawn i ardderchog ac rydym yn gobeithio rhagori ar y sgôr hwn yn yr archwiliad nesaf.
Meddai Alison Bastian, Pennaeth Ysgol Gynradd Burlais, "Mae llawer o gyffro gan ein bod bellach yn gallu gweld yr ysgol newydd yn datblygu'n dda. Mae manteision bod ar un safle, mewn adeilad newydd a adeiladwyd i'r diben, yn ormod i'w rhestru."