Mwy o Newyddion
“Gadewch i ni ddechrau o’r newydd”
Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi galw am ddiwedd i gynnydd tameidiog ac anfoddhaol i bobl Cymru.
Rhybuddiodd y bu taith gyfansoddiadol Cymru yn broses drwsgl hyd yma, a galwodd am ddechrau o’r newydd i roi setliad mwy boddhaol a sefydlog.
Yr wythnos hon, cyhoeddodd Plaid Cymru ddogfen “Dewch â’n Llywodraeth Gartref” sydd yn amlinellu camau nesaf y blaid ar gyfer Cymru yng ngoleuni’r refferendwm. Gwêl y blaid Gynulliad Cenedlaethol mwy grymus fel y cam nesaf i Gymru.
Dywedodd y dylai’r setliad hwn ymgorffori pecyn Comisiwn Silk yn ei gyfanrwydd, ond heb fod angen refferendwm ar dreth incwm. Mae’r Blaid hefyd yn edrych y tu hwnt i Silk ac eisiau triniaeth gyfartal i Gymru pan gynigir pwerau newydd i’r Alban.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood: “Nodweddwyd ein taith gyfansoddiadol dros y pymtheng mlynedd ddiwethaf gan gynnydd tameidiog, gyda’r canlyniadau yn wastad wedi bod yn anfoddhaol. Nid yw hyn yn difrïo’r camau pwysig a gymerwyd a’r aeddfedu a ddaeth i’n rhan fel cenedl. Rwy’n derbyn fod gwir yn yr hen air “rhaid cropian cyn cerdded”. Ond pan sylweddolwn fod pob setliad cyfansoddiadol a gawsom wedi gorfod cael ei adolygu a’i newid, fe welwn nad yw hynny’n wir bob tro.
“Gadewch i ni ddechrau o’r newydd nawr.”
Aeth yn ei blaen: “Rwy’n credu y gallai agenda sydd yn ymgorffori pecyn Silk yn ei gyfanrwydd, ac agwedd gadarnhaol tuag at adlewyrchu’r hyn a gynigir i’r Alban, weld Cymru yn symud ymlaen gryn dipyn o’n sefyllfa bresennol. Byddai arfau polisi sylweddol newydd ar gael i Lywodraethau Cymru yn y dyfodol, a gallai wneud gwahaniaeth ymarferol i’r modd yr ydym yn cyflawni ein polisïau.”