Mwy o Newyddion
Cynllun tai yn bygwth y Gymraeg
MAE cyfarfod arbennig i benderfynu a ddylid caniatau cynllun i dreblu maint pentref yn Sir Ddinbych, wedi ei ohirio – a hynny oherwydd bod Cyngor Sir Ddinbych wedi derbyn cymaint o ymateb gan y cyhoedd ar effaith posib y fath ddatblygiad ar yr iaith Gymraeg.
Roedd cyfarfod arbennig o gynghorwyr Cyngor Sir Ddinbych wedi’i drefnu ar gyfer heddiw, er mwyn pleidleisio ar y cynllun i godi 1,700 o dai newydd, ynghyd ag ysgol, canolfan hamdden a siopau ac unedau diwydiannol, yn y pentref sydd ar hyn o bryd yn gartref i 900 o bobl.
Ond, yn dilyn cyhoeddi Asesiad Effaith Ieithyddol Cymunedol ddechrau’r flwyddyn, a hwnnw’n honni nad oedd yr iaith Gymraeg yn ddigon o ffactor i’w ystyried, mae’r cyngor wedi derbyn cannoedd o lythyrau gan unigolion a sefydliadau sy’n dweud fod yr holl asesiad wedi’i seilio ar ystadegau wedi dyddio a ffeithiau simsan. Mae gwrthwynebwyr y datblygiad yn dweud mai gwendid mwyaf yr asesiad ydi ei fod wedi ei seilio ar ystadegau Cyfrifiad 2001, a’i fod yn honni mai “dim ond 18%” o bobl Bodelwyddan sy’n siarad Cymraeg.
I ddarllen mwy CLICIWCH YMA