Mwy o Newyddion
Deddf Newydd sy’n ei gwneud yn haws i gerdded a seiclo yng Nghymru yn dechrau heddiw
Cafodd Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, a fydd yn ei gwneud yn haws i bobl gerdded a beicio yng Nghymru, ei chychwyn yn ffurfiol heddiw gan y Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart.
Dywedodd y Gweinidog: “Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) yn dod i rym yn ffurfiol heddiw. Bydd y Ddeddf hon yn fodd i wireddu’n gweledigaeth i hyrwyddo beicio a cherdded fel dewis go iawn yn lle defnyddio’r car.
Dan y Ddeddf hon, mae’n ofynnol i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol hyrwyddo cerdded a beicio. Mae angen i awdurdodau lleol yng Nghymru bellach fapio a chynllunio llwybrau addas ar gyfer cerdded a beicio, a mynd ati bob blwyddyn i wella’r seilwaith sydd ganddyn nhw ar gyfer cerdded a beicio. Bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati yn y man i gyhoeddi canllawiau dylunio a chyflawni a fydd yn rhoi arweiniad i’r awdurdodau lleol ar sut i weithredu’r Ddeddf. Drwy ei gwneud yn haws i gerdded a beicio, bydd y Ddeddf hon yn golygu y bydd modd i bobl ledled Cymru fwynhau’r manteision a ddaw yn sgil mwy o weithgarwch corfforol.”
I nodi’r achlysur, bydd y Gweinidog yn siarad yn y gynhadledd flynyddol ar Deithio Llesol sy’n cael ei chynnal yng Nghaerdydd. Eleni, mae’r gynhadledd yn hoelio sylw ar blant a phobl ifanc, a sut y gall cerdded a beicio fod o fudd iddyn nhw.
Ychwanegodd Mrs Hart: “Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r awdurdodau lleol yn barod i greu rhagor o gyfleoedd i ddisgyblion gerdded a beicio yn ddiogel i’r ysgol, gan wneud hynny drwy’r rhaglen Llwybrau Diogel mewn Cymunedau. Mae hefyd wedi darparu cyllid ar gyfer Kerbcraft a chynlluniau hyfforddiant beicio. Mae wedi gofyn hefyd i’r awdurdodau lleol ddarparu manylion am y gwaith sydd eto i’w wneud i wella diogelwch a mynediad ar y ffyrdd o amgylch ein hysgolion.”
Bydd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis, yn siarad yn y gynhadledd hefyd am bwysigrwydd creu cyfleoedd i ddisgyblion gerdded a beicio i’r ysgol ac yn ôl.
Dywedodd: “Os ydyn ni am i’n plant fod yn llawn egni yn yr ystafell ddosbarth, mae angen iddyn nhw fod yn llawn egni cyn iddyn nhw gyrraedd gatiau’r ysgol. Mae gweithgarwch corfforol yn hanfodol er mwyn cynnal ffordd iach o fyw. Po gynharaf y byddwn ni’n sicrhau bod plant yn egnïol yn eu bywydau bob dydd, yr hawdda' y bydd hi iddyn nhw barhau i gadw’n heini wrth dyfu’n oedolion.
Rydyn ni’n awyddus iawn i weld yr amryfal gyrff yn cydweithredu i annog rhagor o blant i deithio i’r ysgol mewn ffordd fwy egnïol. Er enghraifft, pan fyddwn ni’n buddsoddi yn Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, byddwn ni’n disgwyl i lwybrau cerdded i’r ysgol gael eu hystyried, ac rydyn ni wrthi’n datblygu safon benodol ar gyfer hynny. Rhaid inni fynd ati gyda’n gilydd i greu diwylliant o deithio llesol, lle bydd plant yn gweld hynny’n beth normal ac yn parhau i fod yn egnïol wrth iddyn nhw dyfu’n hŷn.”
Eleni, bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar yr hyn y bydd y Ddeddf yn ei olygu i blant a phobl ifanc ac i’r addysgwyr, y gweithwyr ieuenctid a’r gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio gyda nhw. Bydd yn edrych ar sut y bydd rhagor o gerdded a beicio o fudd i blant a phobl ifanc, a hefyd yn ystyried ffyrdd ymarferol a diogel o gyflawni hynny. Bydd Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru, a chynrychiolwyr Sustrans Cymru yn siarad ac yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb.
Dywedodd Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru:” Mae plant a phobol ifanc yn siarad â fi yn aml am sut mae angen llwybrau cerdded a seiclo mwy diogel i’r ysgol. Maen nhw’n poeni am traffic a diogelwch ffyrdd, ond hefyd am beryglon cymdeithasol mwy eang. Dwi’n hapus iawn fod Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i wrando ar y pryderon yma i sicrhau nid unig fod gan blant Cymru llwybrau diogel ond hefyd ei bod yn teimlo’n ddiogel wrth gerdded neu seiclo i’r ysgol.”
Dywedodd Jane Lorimer, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sustrans Cymru: “Mae’n gwaith ni’n dangos y byddai dros hanner ein plant yn hoffi beicio i’r ysgol, ond y gwirionedd yw mai dim ond 2% o’r teithiau i’r ysgol yng Nghymru sy’n cael eu gwneud ar gefn beic.
“Drwy annog pobl ifanc i feicio ac i gerdded yn amlach, gallwn ni wella iechyd y cyhoedd a mynd i’r afael â’r tagfeydd sy’n cael eu hachosi gan draffig yn cludo plant i’r ysgol. Mae’n wych gweld Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r her hon, ac yn dangos arweinyddiaeth wleidyddol gadarn drwy drefnu bod dau Weinidog yn amlinellu’r ymrwymiad hwnnw drwy siarad yn y gynhadledd bwysig hon.”
Llun: Edwina Hart