Mwy o Newyddion

RSS Icon
25 Medi 2014

Llafur wedi cael digonedd o amser i

Mae Plaid Cymru wedi beirniadu sylwadau arweinydd Llafur, Ed Miliband, sydd wedi dweud ddoe y byddai’n “edrych ar” y mater o ariannu teg i Gymru.

Mae Comisiwn annibynol Holtham wedi dangos fod Cymru’n colli £300-400m y flwyddyn yn sgil Fformiwla Barnett sy’n rhoi nawdd ar sail poblogaeth, nid anghen.

Mewn cyfweliad gyda’r BBC, gwnaeth Mr Miliband yr honiad syfrdanol fod y Fformiwla Barnett wedi “gwasanaethu Cymru’n dda” a method ymrwymo i’w ddiwygio er mwyn sicrhau cyfran deg o arian i Gymru.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards AS, fod hyn “yn sarhad” i bobl Cymru a na fyddai geiriau Llafur yn cael eu cymryd o ddifrif gan fod y blaid eisoes wedi torri eu haddewid ar fwy o bwerau i’r Alban.

Dywedodd Mr Edwards: “Prin y gallwn gredu fy nghlustiau wrth glywed Mr Miliband yn dweud y byddai’n “edrych ar” ariannu teg i Gymru!

“Cafodd Llafur 13 mlynedd mewn grym i roi terfyn ar danariannu Cymru ond maent wedi methu ein cenedl dro ar ol tro.

“Mae’r ffaith fod Llafur wedi dal dwylo’r Toriaid i addo mwy o bwerau i’r Alban wrth ofni y byddent yn colli’r refferendwm – addewid sy’n prysur cael ei dorri – yn dangos na ellir ymddiried ynddynt i ddelifro dros Gymru.

“Mewn cyferbyniad clir, ddoe cyhoeddodd Plaid Cymru gynllun uchelgeisiol ac ymarferol i sicrhau trefniant ariannu newydd a thecach rhwng Cymru a llwyodraeth y DU.

“Mae £300-400m y flwyddyn yn swm sylweddol o arian i fod yn ei golli. Mae hi’n syfrdanol fod arweinydd Llafur sy’n honni fod ei wlad yn siarad dros Gymru yn cymryd agwedd mor hamddenol tuag at y broblem ddirfawr hon.

“Efallai fod y Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud pethau mawr ynglŷn â diwygio Barnett ond mae sylwadau Mr Miliband yn dangos nad oes ganddo unrhyw wir ddylanwad, hyd yn oed o fewn ei blaid ei hun.

“Tra fod Llafur yng Nghymru yn ildio i orchmynion San Steffan, Plaid Cymru yw’r unig blaid sy’n cynnig llais cryf i bobl Cymru.”

Rhannu |