Mwy o Newyddion
Canwr eiconig a gwleidydd yn ddisgynnydd i frenhinoedd hynafol – ymchwil DNA
Mae profion gan y prosiect newydd Cymru DNA Wales yn awgrymu'n gryf bod y canwr a’r gwleidydd Dafydd Iwan yn ddisgynnydd i frenhinoedd a siaradai Gymraeg a oedd ar un adeg yn rheoli tiroedd yn Lloegr.
Mae’r darganfyddiad - sy’n cael ei ddisgrifio fel un nodedig - yn dangos bod awdur yr anthem eiconig, hynod briodol honno Yma o Hyd yn cario gennyn anghyffredin a marciwr DNA hynod sydd ond yn bodoli yng Nghymru (ac ychydig weithiau yn unig) yn siroedd deheuol Lloegr. Mae'r marciwr, sydd wedi ei alw'n Hynafol Gymreig gan wyddonwyr Cymru DNA Wales, ond i'w ganfod mewn niferoedd bychain iawn ar draws y wlad, o Ynys Môn i Forgannwg, ac mae'n anghyffredin hyd yn oed yng Nghymru.
Mae’n ymddangos bod dynion y grŵp hwn hefyd yn perthyn yn agos i’w gilydd, sy’n awgrymu eu bod i gyd yn ddisgynyddion i un unigolyn penodol.
Mae'r ffaith bod y marciwr DNA i’w ganfod hefyd mewn dynion ar draws de Lloegr yn awgrymu'n gryf ei fod wedi ei effeithio gan ddyfodiad y Sacsoniaid, a chyfres o oresgyniadau a mudo yn dilyn enciliad y Rhufeiniaid yn ystod y bumed ganrif. Fe wnaeth y mewnfudwyr newydd ddymchwel y gymdeithas a gyrru eu harweinwyr tuag at y gorllewin ac yn ôl damcaniaeth gwyddonwyr mae Dafydd Iwan yn ddisgynnydd i un o'r rhyfelwyr hyn. Bydd samplo pellach dros y misoedd nesaf yn cryfhau'r ddamcaniaeth yma.
Cafodd y dystiolaeth ei datgelu yn lansiad prosiect Cymru DNA Wales yng Nghaerdydd.
Ffrwyth y prosiect dwy neu dair blynedd fydd cyfres o raglenni ar S4C, fydd yn cael ei chynhyrchu gan y cwmni cynhyrchu uchel ei barch Green Bay Media. Canlyniad arall y gwaith fydd storfa o wybodaeth fydd yn ddeunydd addysgol ar gyfer y cenedlaethau i ddod.
Dywed Alistair Moffat, Cymru DNA Wales, “Mae hwn yn ddarganfyddiad rhyfeddol, ac mae canfod hyn mor gynnar yn y prosiect yn awgrymu bod hanes cyfoethog i'w ddatguddio yng Nghymru. Byddwn yn canfod mwy o bobl gyda marciwr Dafydd. Rydym hefyd yn chwilio am Duduriaid, a phatrymau mwy modern, ond mae un peth yn sicr – rydym am gael ein synnu."
Ychwanegodd Garffîld Lloyd Lewis, S4C “Mae hi'n gyffrous iawn ein bod wedi cael hyd i stori bersonol mor nodedig yn nyddiau cyntaf prosiect Cymru DNA Wales. Yn ogystal â datgelu mwy am DNA gwahanol unigolion, nod y prosiect yw datguddio fersiwn hollol newydd o hanes Cymru drwy gloddio i’r dystiolaeth DNA sydd yn ein meddiant."