Mwy o Newyddion
Hau’r had i ddenu mwy o ymwelwyr
Mae grŵp o newyddiadurwyr dylanwadol o’r Iseldiroedd a Ffrainc wedi dod i Gymru er mwyn ymweld â’i gerddi. Croeso Cymru a drefnodd yr ymweliad fel rhan o raglen flynyddol o weithgareddau ym maes y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus. Nod yr ymweliad yw sicrhau mwy o sylw i Gymru o fewn marchnadoedd â blaenoriaeth er mwyn gwella ei henw da fel lleoliad delfrydol ar gyfer gwyliau.
Bydd y grŵp o saith o newyddiadurwyr yn cael blas ar rai o erddi mwyaf unigryw Cymru er mwyn rhoi rhesymau pendant i’w darllenwyr ymweld â Chymru.
Bydd y grŵp yn mynd ar daith o amgylch gogledd Cymru, gan ymweld â Neuadd Bodysgallen; Gardd Bodnant sydd dan reolaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chanolfan Bwyd Bodnant sydd gerllaw; Plasnewydd sydd hefyd dan reolaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol; Ystad Clough Williams-Ellis ym Mrondanw ac yna Portmeirion. Yna byddant yn teithio i lawr i’r De, gan ymweld â Chanolfan y Dechnoleg Amgen ger Machynlleth ac yna Neuadd a Gerddi Ynyshir. Bydd cyfle iddynt hefyd fwynhau taith ar reilffordd gul Cwm Rheidiol i Bontarfynach.
Bydd Aberglasne a’r Ardd Fotaneg Genedlaethol yn rhan o’r daith o amgylch Sir Gaerfyrddin ac yna byddant yn ymweld â Chaerdydd, gan feicio o amgylch rhai o barciau a gerddi’r ddinas. Gerddi Dyffryn ym Mro Morgannwg fydd rhan olaf y daith.
Yn ystod 2013 cynhaliodd tîm Cysylltiadau Cyhoeddus a Chysylltiadau â’r Cyfryngau Croeso Cymru 300 o ymweliadau ar gyfer y cyfryngau. Golyga hyn drefnu rhaglenni penodol ac amrywiol o amgylch Cymru ar gyfer newyddiadurwyr, criwiau ffilm a newyddiadurwyr radio. Mae gwerth £35 miliwn o hysbysebion wedi deillio o’r gwaith hwn. Mae uchafbwyntiau yn cynnwys sawl erthygl yn y New York Times yn dilyn taith ar thema canmlwyddiant Dylan Thomas yn mis Mehefin 2014 a darllediad o Gynru gan rhaglen radio Peter Greenberg or UDA gyda chynulleidfa o filiwn. Bydd Peter yn dychwelyd i Gymru i wneud rhaglen arall yn ddiweddarach yn y mis.
Mae’r gwaith hwn yn rhan o waith marchnata rhyngwladol Croeso Cymru sydd hefyd yn cynnwys gwaith ymgyrchu penodol o fewn marchnadoedd pwysig; marchnata digidol; gweithio mewn partneriaeth â VisitBritain o fewn marchnadoedd newydd a mynychu sioeau’r diwydiant teithio gan gynnwys Marchnad Teithio’r Byd, ITB Berlin a’r sioe Best of Britain and Ireland.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Ken Skates: “Hoffwn groesawu’r grŵp hwn o newyddiadurwyr i Gymru. Rwy’n gobeithio y bydd y daith hon yn agor llygaid y newyddiadurwyr i’r holl brofiadau unigryw y gallwn eu cynnig ac y bydd hefyd yn gyfle iddynt brofi ein croeso Cymreig cynnes, ein lletygarwch gwych a hefyd ein bwyd a’n llety arbennig. Mae hanes diddorol ynghlwm wrth lawer o’n gerddi ac maent yn dysgu llawer i ni am ein treftadaeth a’n diwylliant. Rwy’n gobeithio y bydd y dyddiau nesaf hyn yn ysbrydoli’r grŵp hwn o newyddiadurwyr ac y bydd eu herthyglau’n denu hyd yn oed mwy o bobl o Ewrop i Gymru.”