Mwy o Newyddion
Myfyriwr yn hyrwyddo rhoi organau
Mae Lydia Richardson wrthi’n astudio am radd Meistr mewn Ymchwil Seicolegol ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd. Hi hefyd yw Is-lywydd Undeb y Myfyrwyr ar gyfer Addysg a Lles. Mae Lydia, sy’n hanu o Lerpwl, yn frwd o blaid rhoi organau yn sgil profiad ei theulu ei hun o sut y gall rhoi organau achub bywydau.
Bydd y tîm Rhoi Organau Cymru yn mynychu Ffeiriau Glas ar draws Cymru rhwng 22-26 Medi fel rhan o ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ymhlith y boblogaeth breswyl fyfyrwyr o newidiadau i ddeddfwriaeth rhoi organau yng Nghymru o 1 Rhagfyr, 2015.
Plentyn bach dwy flwydd oed oedd Lydia pan gafodd ei mam drawsblaniad calon ac ysgyfaint ym 1995. Roedd trawsblaniadau dwbl yn anghyffredin iawn bryd hynny ond, bron ugain mlynedd yn ddiweddarach, mae mam Lydia yn brawf o’r ffaith bod rhoi organau’n gallu newid bywyd rhywun.
Dywedodd Lydia: “Mae gan fy mam ewyllys gref iawn, ac er nad yw ei hiechyd yn berffaith, mae’r trawsblaniadau’n sicr wedi achub ei bywyd ac wedi rhoi ein mam yn ôl i ni fel teulu.
“Pan oeddwn i’n tyfu gyda fy nau frawd hŷn, cawsom lawer o help gan y Gwasanaethau Cymdeithasol gan fod fy mam yn sâl. Wrth i mi fynd yn hŷn, roeddwn yn gwerthfawrogi pa mor ffodus oeddem ni i gael fy mam o ystyried pa mor ddifrifol oedd ei chyflwr, sef Pwysedd Gwaed Uchel Ysgyfeiniol Sylfaenol, a pha mor ffodus yr oedd hi i dderbyn yr organau mewn pryd.
“Fe gofrestrais i fel rhoddwr fy hun yn 2006, ac rwy’n credu bod deddfwriaeth optio allan feddal newydd Llywodraeth Cymru yn beth gwych oherwydd rwy’n credu, ymhen amser, y bydd yn golygu y bydd mwy o organau ar gael i’r rhai hynny sydd mewn angen. Ond rydw i am helpu i sicrhau bod cynifer o fyfyrwyr o Gymru a’r rhai hynny sy’n symud i Gymru i astudio yn cael gwybod am y newidiadau a sut y gallent effeithio arnyn nhw.
“Rwy’n gweithio ar raglen dreigl o weithgareddau ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd i helpu i godi ymwybyddiaeth ymhlith myfyrwyr yma wrth i Gymru nesáu at gyflwyno’r ddeddfwriaeth newydd ar 1 Rhagfyr 2015.”
Bydd y tîm yn bresennol yn y digwyddiadau canlynol:
Dydd Llun 22 Medi Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Dydd Mawrth 23 Medi Prifysgol y Drindod Dewi Sant – Llambed, Prifysgol De Cymru – Trefforest
Dydd Mercher 24 Medi Prifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe
Dydd Iau 25 Medi Prifysgol y Drindod Dewi Sant – Caerfyrddin, Prifysgol Glyndŵr
Dydd Gwener 26 Medi Prifysgol Fetropolitan Abertawe
Am ragor o wybodaeth ewch i www.rhoiorganau.org. Mae modd hefyd gofyn cwestiwn neu ymuno yn y sgwrs ar @OrgDonationCYM #amserisiarad