Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Medi 2014

Her Syniadau Mawr Cymru

Mae'r her wedi cael ei gosod i entrepreneuriaid nesaf Cymru gamu ymlaen i gael eu sbarduno i fusnes fel rhan o ail Her Syniadau Mawr Cymru - un o'r ymgyrchoedd mwyaf o'i fath a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.

Bydd clyweliadau’n cael eu cynnal ledled Cymru ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 24  oed sydd wedi cychwyn eu busnes eleni neu sy’n ymrwymo i gychwyn yn 2015 i gael y cyfle i weithio gydag entrepreneuriaid llwyddiannus i lansio a thyfu eu busnesau.

Derbynnir ceisiadau ar hyn o bryd ar gyfer hyd at 50 lle ar yr Her (www.SyniadauMawrCymru.com) a fydd yn cynnwys penwythnos Bŵtcamp busnes dwys am dri diwrnod lle byddant yn cael eu hysbrydoli a'u herio gan entrepreneuriaid rhagorol.

Yn dilyn hyn, bydd cyfarfodydd bwrdd rheolaidd gydag entrepreneuriaid ac ymgynghorwyr i'w helpu a'u harwain am y 12 mis ar ôl y Bŵtcamp.

Byddant yn cael y cyfle i:
*    gael mynediad i gymorth busnes drwy Busnes Cymru a sefydliadau partner;
*     rhwydweithio gydag entrepreneuriaid ifanc eraill sydd â’r un feddylfryd;
*    cael eu hyfforddi a’u herio am eu busnes yn ystod pob cam;
*    lansio a datblygu eu busnes.
Mae dau ddeg wyth o bobl ifanc o Dde, Canolbarth a Gogledd Cymru eisoes wedi cychwyn neu yn y broses o lansio eu busnes eu hunain ychydig dros hanner ffordd drwy'r Her gyntaf a ddechreuodd gyda’r Bŵtcamp cyntaf ym mis Ionawr eleni.

“Mae hwn yn gyfle gwych i bobl ifanc ac rwy'n siŵr yn un y byddai entrepreneuriaid fel fi wedi bod wrth ein boddau yn ei gael wrth gychwyn busnes. Mae’r her gyntaf eisoes yn llwyddo i ddarparu canlyniadau a byddem yn annog unrhyw berson ifanc sydd wedi lansio neu ar fin lansio busnes â'r potensial i dyfu i wneud cais," meddai’r entrepreneur James Taylor, Prif Weithredwr Grŵp SuperStars Caerdydd a Llysgennad Rhaglen Syniadau Mawr Cymru.

“Mae’r Her gyntaf eisoes wedi cynhyrchu 28 o entrepreneuriaid ifanc naill ai mewn busnes neu ar fin cychwyn ar eu taith. Nawr, rydym yn cynnig y cyfle i fwy o bobl ifanc gael hyfforddiant ac arweiniad dwys i ddatblygu i fyd busnes."

Mae Her Syniadau Mawr Cymru yn rhan o Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru (YES). Bwriad ymgyrch Syniadau Mawr Cymru, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop yw annog pobl ifanc i fod yn fwy entrepreneuraidd a helpu'r rhai sydd â diddordeb mewn cychwyn busnes i fwrw ymlaen â'u syniadau.

Dywedodd Edwina Hart, y Gweinidog dros yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: “Syniad gan entrepreneuriaid oedd yn awyddus i helpu eraill gychwyn busnes oedd Her Syniadau Mawr Cymru. Mae’r Her gyntaf eisoes yn cynhyrchu rhai o entrepreneuriaid y dyfodol.
“Rydym yn awyddus i ysbrydoli pobl ifanc eraill i fwrw ymlaen â'u syniadau ac mae’r hyfforddiant a'r arweiniad ysbrydoledig drwy’r Her yn un ffordd o ddatblygu arweinwyr busnes y dyfodol."

Mae Ffurflenni Cais ar gyfer Her Syniadau Mawr Cymru ar gael yn www.SyniadauMawrCymru.com a rhaid eu cyflwyno erbyn 31 Hydref 2014. Bydd y clyweliadau’n cael eu cynnal ledled Cymru ym mis Rhagfyr.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn mynychu Bŵtcamp Her Syniadau Mawr Cymru ym mis Ionawr 2015 ac yna’n mynychu cyfarfodydd bwrdd rheolaidd gydag entrepreneuriaid ac ymgynghorwyr o fis Chwefror ymlaen.
 

Rhannu |