Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Medi 2014
gan Harri Williams

Yfed oedd yn cau allan yr ofnau a threchu swildod

ER i bennod am y bardd Iwan Llwyd gael ‘ei gwrthod’ ar gyfer cyfrol yn trafod ei waith mae’r gohebydd a’r bardd Karen Owen wedi ei chyhoeddi ei hun.  Traddodwyd y bennod sy’n sôn am  alcoholiaeth y bardd o Fangor yng Ngŵyl Golwg dros y Sul diwethaf ac aeth ar werth wedi hynny.

 Mae’n trafod ei gyflwr, ‘ei ofnau dyfnaf, ei ddefodau a’i ffydd a’r effaith a gafodd y rhain i gyd ar ei gerddi.’  Gwna hyn, meddai, o safbwynt un a fu gydag Iwan yn gyson, pan oedd ar ei orau a’i isaf, mewn sobrwydd a meddwdod, yn ystod blwyddyn olaf ei fywyd.

Dan y teitl Cerddi Ofn mae Karen yn sôn mai cyflwr wedi ei seilio ar ofn yw alcoholiaeth.

Ond mae am ladd un ystrydeb: “Nid am ei fod yn fardd yr oedd Iwan yn alcoholig; ond mae’n debygol iawn mai am ei fod yn alcoholig yr oedd Iwan yn gystal bardd.

“Y mae’r ysglyfaeth o gyflwr hwn yn mynd ati’n ddeheuig iawn i ddal yn gaeth bobol annwyl, sensitif, synhwyrus, ddeallus a meddylgar.  Rywsut, mae cymhlethdodau ac ofnau dyfnaf yr enaid yn cael rhwydd hynt i gymryd drosodd, cadw reiat a bwydo’n dawel fach ar hunan-barch a hyder unigolion.”

Ym mlwyddyn olaf ei fywyd, rhwng Ebrill 2009 a Mai 2010, bu’n frwydr iddo geisio yfed llai.

 “Ond nid brwydr hawdd oedd hon. Yfed oedd yn cau allan yr ofnau, yn trechu swildod ac yn ymdrin a phethau anodd eu hwynebu – yr euogrwydd a’r bai – ac roedd yn boddi caledwch pob cymhlethdod dros dro.”

Sonia fod o leiaf ddau Iwan – un yn Fab y Mans traddodiadol a’r llall “oedd bron a marw eisiau torri pob ffenest yn y capel efo cerrig roc-a-rôl.

“A dyna lle’r oedd Iwan yn pendilio – rhwng yr hen ffordd Gymreig (a chul, weithiau) o fyw, a’r posibiliadau newydd a fyddai’n dod o deithio ac arbrofi a chicio yn erbyn y tresi.”

Credai ei fod wedi etifeddu llawer o’i ddefodau gan ei dad, Y Parch Dafydd Lloyd Williams.  Ddeuai ef ei hun ddim allan o‘i fflat oni bai ei bod yn hanner awr wedi’r awr; byddai’n prynu poteli gwin fesul dwy; rhaid oedd gorffen croesair yr Indepenent bob dydd a mynd i gysgu yn gwrando ar Radio 4.

“Pe na bai un o’r defodau hyn yn cael eu cadw, fe fyddai’n ddiwedd y byd am sbel.”

 Cyhoeddwyd y gyfrol Awen Iwan yn ystod yr haf gan Gyhoeddiadau Barddas ond dywed Karen fod ei phennod hi wedi ei ‘gwrthod’.  Mae’n ei gwerthu am £1 gyda’r holl elw yn mynd tuag at y Stafell Fyw yng Nghaerdydd, canolfan i rai sy’n gaeth i alcohol a chyffuriau neu unrhyw ddibyniaeth arall.

 

Rhannu |