Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Medi 2014

Cydsyniad Brenhinol i’r Bil Tai newydd

Bydd deddf newydd bwysig yn cyflwyno gwelliannau ar draws y sector tai, gan  wella safonau tai, cynyddu nifer y tai fforddiadwy, gwella cymunedau a helpu pobl sy’n agored i niwed. Rhoddodd y Frenhines gydsyniad brenhinol i’r ddeddf ddydd Mercher.
 
Bydd Bil Tai (Cymru) 2014 yn:

* Gwella safonau a dulliau rheoli’r sector rhentu preifat drwy gyflwyno cynllun cofrestru a thrwyddedu gorfodol i landlordiaid preifat ac asiantaethau gosod tai.

* Gwneud rhagor i atal digartrefedd drwy osod dyletswydd ganolog ar awdurdodau lleol i helpu pobl sydd mewn perygl o golli eu cartref

* Gwella’r trefniadau ariannol i awdurdodau lleol sydd â’u tai eu hunain, er mwyn iddynt allu buddsoddi i wella ansawdd eu stoc ac adeiladu cartrefi newydd lle bo’n briodol

* Helpu i ddatrys y broblem o eiddo gwag hirdymor drwy ganiatáu i awdurdodau lleol godi cyfradd uwch o dreth gyngor fel cymhelliad i ailddefnyddio’r eiddo gwag

 
Rhoddir Cydsyniad  Brenhinol i Fil pan fo breinlythyrau dan y Sêl Gymreig wedi’u llofnodi â llaw Ei Mawrhydi yn cael eu cyflwyno i Glerc y Cynulliad. Daw’r Bil yn Ddeddf Cynulliad wedyn.
 
Prif Weinidog Cymru yw Ceidwad y Sêl Gymreig a rhoddodd y Sêl ar y Breinlythyrau mewn seremoni yng Nghaerdydd yn gynharach heddiw [dydd Mercher 17 Medi].
 
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: “Mae gennym raglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol ar gyfer pum mlynedd y llywodraeth hon; rydym yn creu atebion Cymreig i greu cymdeithas decach a gwneud Cymru’n wlad well i fyw ynddi.
 
“Taclo anghydraddoldeb a threchu tlodi a hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol yw prif nod y Ddeddf hon. Drwy wella’r sector tai cyfan bydd yn sicrhau bod pobl yn gallu byw mewn cartrefi cyffyrddus a fforddiadwy a manteisio ar well gwasanaethau tai, yn enwedig os ydynt yn ddigartref neu’n wynebu problemau.”
 
Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog â chyfrifoldeb dros dai: “Yn ddi-os, dyma un o ddatblygiadau pwysicaf y genhedlaeth hon ym maes tai. Bydd y gofyniad i gofrestru a thrwyddedu yn helpu i fynd i’r afael â landlordiaid gwael ac yn gwell safonau yn y sector rhentu preifat. Mae’r ddeddf newydd yn canolbwyntio ar atal digartrefedd hefyd, drwy sicrhau bod pobl agored i niwed yn cael eu hamddiffyn a’u cefnogi mewn da bryd.
 
“Wrth gwrs, dim ond y cam cyntaf yw’r ddeddf hon mewn rhaglen sylweddol o waith. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio’n agos â’r holl sefydliadau gyda diddordeb mewn tai. Drwy weithio gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl a chynnig gwell dyfodol iddynt.”
 

Rhannu |