Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Medi 2014

Hwb gwerth £1 miliwn i ffermwyr defaid Cymru

Mae Hybu Cig Cymru wedi croesawu'r newyddion y bydd yn rhedeg prosiect newydd gwerth bron £1 miliwn i helpu ffermwyr defaid i fanteisio ar dechnoleg newydd a gwneud mwy o elw.

Gwnaed y cyhoeddiad heddiw gan y Dirprwy Weinidog dros Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans, a ddywedodd y byddai'r cynllun sy'n werth £970,000 yn cael ei ariannu â chymorth gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru.

Bydd y prosiect peilot, a luniwyd ar y cyd â'r diwydiant, yn ceisio cael gwared â rhai o'r rhwystrau sy'n atal ffermwyr rhag defnyddio neu ymgyfarwyddo â thechnoleg newydd.

Y nod yw helpu ffermwyr i ddefnyddio technolegau yn eu ffermio o ddydd i ddydd er mwyn bod yn fwy effeithlon a gwella perfformiad eu busnesau.

Bydd yn cael ei roi ar waith gan HCC a bydd ar gael i'r holl fusnesau ffermio defaid cofrestredig yng Nghymru sydd â diadelloedd â mwy na 100 o famogiaid.

Dywedodd Gwyn Howells, Prif Weithredwr HCC: “Rydym yn edrych ymlaen at redeg y cynllun newydd cyffrous hwn oherwydd credwn y bydd yn gwneud busnesau fferm yn fwy effeithlon a phroffidiol.

“Blaenoriaeth HCC yw datblygu a chynnal dyfodol hyfyw a chynaliadwy i ffermwyr yng Nghymru. Credaf fod prosiectau fel hyn yn gam pwysig tuag at wireddu ein huchelgais ar gyfer y diwydiant cyfan.”

Dywedodd Rebecca Evans: “Mae gwella perfformiad busnesau a sgiliau TG mewn ffermio yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.  Rwy'n falch ofnadwy fod y prosiect hwn wedi'i ddatblygu ar y cyd â phobl sy'n ffermio o ddydd i ddydd," meddai.

“Fy mwriad yw gweld prosiectau'r Rhaglen Datblygu Gwledig yn cael eu datblygu yn y dyfodol trwy gydweithredu fel hyn â'r diwydiant.”

Bydd busnesau sy'n cymryd rhan yn y prosiect hwn yn cael gwybodaeth, hyfforddiant a chymorth sy'n berthynol i'r buddion o gofnodi trwy ddulliau electronig.

Bydd y cyfranogwyr sy'n llwyddo i gwblhau'r rhaglen hon yn gymwys ar gyfer taleb i'w helpu i brynu caledwedd a meddalwedd priodol. Dywed Llywodraeth Cymru fod arian ar gael i gynorthwyo'r 1,500 cyntaf o ymgeiswyr llwyddiannus.

Llun: Gwyn Howells

Rhannu |