Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Medi 2014

Cannoedd yn cerdded er cof am Tesni

Dydd Sul ymunodd cannoedd o gefnogwyr gyda rhieni a ffrindiau Tesni Edwards ar daith gerdded noddedig a drefnwyd er cof amdani.

Trefnwyd y daith gerdded gan Ifor Williams Trailers lle mae Jason, tad Tesni, yn gweithio ac yn cerdded gydag ef yr oedd llu o gydweithwyr o ffatrïoedd y cwmni yng Nghynwyd a Chorwen.

Bydd yr holl elw yn mynd i Ambiwlans Awyr Cymru a ymatebodd i'r alwad frys ar ôl i Tesni, 14 oed, gael ei tharo’n wael flwyddyn i fis Ebrill diwethaf.

Yn anffodus nid oeddent yn gallu achub y disgybl poblogaidd o Ysgol Dinas Brân, Llangollen, a fu farw o gyflwr heb ei ganfod ar ei chalon ychydig wythnosau cyn ei phen-blwydd yn 15 oed.

Mae Ifor Williams Trailers wedi addo cyfrannu swm cyfatebol i'r swm a godir gan y daith gerdded i elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

Roedd y brif daith gerdded yn mynd o ffatri’r cwmni trelars yng Nghynwyd, ger Corwen, i Langollen ac yn 14 milltir o hyd - un filltir am bob blwyddyn o fywyd Tesni.

Roedd taith gerdded Taith Tesni yn dilyn y llwybr yr arferai Tesni ei gymryd bob bore wrth deithio i'r ysgol.

Dywedodd ei mam, Dwysan, sy'n Rheolwr Practis ym meddygfa Pen-y-Bont yn Llanelwy: “Rydym yn ddiolchgar iawn am yr holl gefnogaeth sydd wedi gwneud i ni deimlo fod Tesni’n rhywun yr oedd llawer â meddwl uchel iawn ohoni, ac rydym yn arbennig o ddiolchgar am y gefnogaeth gan ei ffrindiau.

“Maen nhw wedi gofyn am arian noddi ac yn siarad am Tesni mewn ffordd wirioneddol gariadus a hapus ac mae'n gwneud i mi deimlo'n arbennig iawn ei bod yn cael ei chofio fel hyn.

“Rydym hefyd yn ddiolchgar i bawb - gweithwyr Ifor Williams, ffrindiau a theulu. Rwy'n adnabod nifer o bobl sydd wedi teithio o gryn bellter i ddod yma, ac rydym yn gwerthfawrogi hynny’n fawr.

“Rydym yn meddwl am Tes pob eiliad o bob dydd ac mae'n braf gwybod fod pawb arall yn meddwl amdani hefyd a'i bod yn dal yn eu calonnau ac yn eu hatgofion a bod ei hysbryd yn dal yn fyw yn eu meddyliau.

“Hyd nes i hyn ddigwydd gyda Tes, doedden ni ddim wedi sylweddoli fod Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu'n fawr ar roddion.

“Wna i byth anghofio clywed sŵn yr hofrennydd yn cyrraedd, ac er yn amlwg, oherwydd difrifoldeb ei chyflwr, nad oedden nhw’n gallu achub Tesni y diwrnod hwnnw, mi wnaeth amlygu'r gwaith y maen nhw’n ei wneud i bobl eraill. Ers hynny rwyf wedi teimlo'n angerddol iawn dros eu cefnogi mewn unrhyw ffordd y gallem a dyna pam y gofynnodd Jason a mi i Ifor Williams Trailers eu dewis nhw fel yr elusen i'w chefnogi.”

Ategwyd y teimlad gan Jason sy'n gweithio yn adran y storfeydd yn Ifor Williams Trailers

Meddai Jason: “Mae'r ffaith bod cymaint o bobl eisiau bod yn rhan o'r daith yn golygu popeth i ni, ac mae'n gwneud i ni i gyd deimlo ein bod yn gwneud rhywbeth cadarnhaol.

“Mae Tes yn sicr yn dal i fod yng nghalonnau pobl, ac maen nhw’n gwneud y daith iddi sy'n wych ac mae hynny'n golygu llawer.

“Mae'n anodd credu bod Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu cymaint ar roddion elusennol oherwydd ei fod yn achos mor bwysig - gallai unrhyw un fod angen eu cymorth ar fyr rybudd.

“Mae'r daith gerdded yn mynd i godi swm da o arian a chodi ymwybyddiaeth hefyd, ac mae hynny yr un mor bwysig.

“Rwyf am ddiolch i bawb am wneud yr ymdrech, yr holl ffrindiau a theulu a chydweithwyr am ddod ac i Ifor Williams Trailers am drefnu'r daith ac yn arbennig i Carole Williams, Gordon Burns, Andrew Reece-Jones, Nadine Pilkington a Richard Hughes, a phawb sydd wedi noddi neu roi arian tuag at y daith gerdded.

“Maen nhw’n gwneud rhywbeth gwych i gofio am Tesni ac rwyf am ddiolch iddynt o waelod fy nghalon.”

Dywedodd Carole Williams, o Ifor Williams Trailers: “Aeth ein calonnau allan i Jason a Dwysan a dau frawd Tesni, Morgan a Findlay, pan fu farw mor drasig o ifanc.

“Roedd Tesni yn berson ifanc hardd ar drothwy dyfodol disglair ac mae ei cholled yn anfesuradwy i'r rhai a oedd yn ei hadnabod ac yn ei charu.

“Rydym wedi gweithio'n agos gyda Jason a Dwysan i drefnu rhywbeth a fydd gobeithio yn deyrnged addas i Tesni ac mae'n briodol ac yn unol â dymuniad y teulu bod yr arian yn mynd tuag at Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae pob taith gan yr Ambiwlans Awyr yn costio £1,500 ac mae angen i’r elusen godi  £6 miliwn y flwyddyn i gadw ei thri hofrennydd i hedfan.

Gyda hofrenyddion wedi eu lleoli yng Nghaernarfon, Y Trallwng ac Abertawe, gallant gyrraedd unrhywle yng Nghymru o fewn 20 munud - waeth pa mor anghysbell yw’r ardal. Mae hynny’n golygu bod gan gleifion siawns o gyrraedd ysbyty o fewn yr Awr Euraidd, sef y 60 munud cyntaf allweddol hynny ar ôl trawma sy’n gallu bod yn hanfodol ar gyfer goroesi.

Ymysg y rhai oedd yn cymryd rhan yn y daith gerdded yr oedd y myfyriwr safon A Lois Ellis, 16 oed, a oedd yn ffrind agos i Tesni.

Dywedodd: “Roeddwn yn ei hadnabod ers pan oeddwn tua 10 oed; roeddem yn yr un dosbarth ac yn ffrindiau mawr. Roedd hi naill ai yn fy nhŷ i neu roeddwn i draw yn eu lle hi ac roeddem yn arfer cysgu drosodd yn nhai ein gilydd. Roedd hi'n ffan enfawr o Harry Potter a bob amser â gwên ar ei hwyneb.

“Roedd Tesni bob amser yn glyfar ac yn gwneud yn dda yn yr ysgol. Roedd hi mor ddoniol ac yn gwmni gwych ac rwy’n ei cholli hi gymaint.

Ychwanegodd mam Lois, Tracey Ellis, sy’n weithredwr cyfathrebu ym Mhencadlys cyfathrebu Heddlu Gogledd Cymru yn Llanelwy: “Roedd Tesni yn ferch ifanc hyfryd, hardd a hyderus a gafodd ddylanwad cadarnhaol iawn ar fy merch.”

“Roedd Tesni yn eneth ifanc hardd ac arbennig a does dim achos gwell na’r Ambiwlans Awyr.”

Dywedodd Dafydd Morris, pennaeth cynorthwyol yn Ysgol Dinas Brân: “Roedd Tesni mor gydwybodol a phan fyddai hi wedi gorffen ei gwaith, yn gyflym iawn fel arfer, byddai hi nôl yn gofyn am fwy.

“Roedd ei marwolaeth cynamserol ac annisgwyl yn drasiedi gwirioneddol ac yn rhywbeth a deimlwyd gan bawb yn y gymuned. Rwy'n adnabod rhieni Tesni, Jason a Dwysan, yn dda. Yn wir, mae fy ngwraig yn perthyn i Dwysan.

“Rwy'n gwybod eu bod wedi teimlo marwolaeth Tesni yn galetach na neb, fel y byddech yn ei ddisgwyl. Ond yr unig beth sy'n cynnig rhyw fath o gysur yw’r ffaith na fyddai unrhyw un wedi gallu gwneud unrhyw beth. Nid oedd unrhyw un ar fai. Roedd hwn yn gyflwr ar y galon, heb unrhyw symptomau ac felly ni chafodd ddiagnosis erioed.”

Dywedodd Lynne Garlick, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym mor ddiolchgar i rieni Tesni ac Ifor Williams Trailers am drefnu’r daith gerdded noddedig yma i godi arian sydd ei angen yn fawr ar gyfer y gwasanaeth hanfodol hwn.

“Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn achub bywydau bob dydd, 365 diwrnod y flwyddyn ac ni fyddem yn gallu gwneud hynny heb ddigwyddiadau codi arian fel hyn.”

Rhannu |